Amdanom ni
Beth ydym yn ei wneud?
Hoffem wneud yn siŵr fod dysgu a hyfforddiant yng Nghymru y gorau y gall fod i bawb.
Ein blaenoriaeth yw helpu ein cymuned i wella o hyd trwy ei harwain a rhoi’r arfau sydd eu hangen arni i wella.
Pwy ydym ni?
Ni yw arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Ystyr y gair Estyn yw ‘cyrraedd’ ac ‘ymestyn’.
Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn gweithio’n annibynnol ohonni i arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ein gwaith yn cael ei awrain gan amrywiaeth o ddeddfwriaeth a rheoleiddio yn ogystal â rhaglen waith flynyddol gan Lywodraeth Cymru.
Ein gweledigaeth yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant, a deilliannau i bob dysgwr yng Nghymru.
Ein cenhadaeth yw cynorthwyo darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant o hunanwella a dysgu trwy ein cyngor, arolygu a meithrin gallu.
Datblygu ein proses arolygu newydd
Dysgwch fwy am sut aethom ati i ddatblygu ein proses arolygu newydd
Gweithio ar y cyd yng Nghymru a thu hwnt
Sut rydym yn gweithio ar y cyd gyda sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig a’r byd
Gweithio i ni
Mae ein staff yn cynnwys gwasanaethau canolog, AEF ac arolygwyr hyfforddedig dan gontract.
Cysylltwch â ni
Beth bynnag sydd ei angen arnoch, cysylltwch.
Ymholiadau Cyffredinol Adborth Cysylltwch â swyddfa'r wasg