Ein blaenoriaethau - Estyn

Ein blaenoriaethau


Cenhadaeth a gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant, a deilliannau i bob dysgwr yng Nghymru.

Ein cenhadaeth yw cynorthwyo darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant o hunanwella a dysgu trwy ein cyngor, arolygu a meithrin gallu. 

Amcanion strategol

  • Rydym yn darparu atebolrwydd cyhoeddus i ddefnyddwyr gwasanaeth ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru
  • Rydym yn llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru a Medr
  • Rydym yn meithrin y gallu i wella’r system addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Ein Gwerthoedd

Ymddygiadau:

  • Parchu a chynnal yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
  • Defnyddio tystiolaeth, osgoi tuedd a herio anghydraddoldeb pan fyddwn yn ei weld
  • Gwneud penderfyniadau teg, cyson a thryloyw sy’n parchu cyd-destunau amrywiol pobl
  • Gweithredu â gonestrwydd, uniondeb a moeseg broffesiynol

Ymddygiadau:

  • Ystyried lles, profiadau bywyd a chyd-destun diwylliannol pobl
  • Gwrando’n weithredol er mwyn deall profiadau a safbwyntiau pobl eraill
  • Gwerthfawrogi gwahaniaeth a chroesawu cynhwysiant, gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli
  • Dangos empathi, caredigrwydd a pharch proffesiynol

Ymddygiadau:

  • Mynd i’r afael â heriau ar y cyd a chefnogi ein gilydd
  • Gweithio’n agored â chydweithwyr, darparwyr a phartneriaid, gan werthfawrogi amrywiaeth a rhannu mewnwelediadau
  • Meithrin ymddiriedaeth a chryfhau perthnasoedd trwy eglurder, chwilfrydedd a pharch

Ymddygiadau:

  • Defnyddio adborth a thystiolaeth i wella systemau, arfer a deilliannau
  • Chwilio am gyfleoedd ar gyfer arfer fyfyriol a datblygiad personol a phroffesiynol
  • Annog arloesedd, chwilfrydedd a her adeiladol
  • Cynnal safonau uchel a chanolbwyntio ar gynnydd ystyrlon i ddysgwyr

Ymddygiadau:

  • Dangos balchder wrth wasanaethu Cymru trwy gynnal ei gwerthoedd, ei diwylliant a’i threftadaeth ddwyieithog
  • Dangos proffesiynoldeb trwy gyfathrebu, ymddygiad a phenderfyniadau
  • Cymryd atebolrwydd am weithredoedd, deilliannau ac effaith ein gwaith
  • Arwain ag uniondeb, eglurder a thegwch

Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid 2020-2023

Darllenwch ein strategaeth ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Darllenwch yma
none