Ymunwch â’n Cymuned Rhieni a Gofalwyr


Tri phlentyn yn eistedd ar fagiau pîn, pob un yn bwrw golwg ar lyfr

Beth yw’r Gymuned Rhieni a Gofalwyr?

Rydym wedi sefydlu Cymuned Rhieni a Gofalwyr ac yn croesawu rhieni a gofalwyr o ystod eang ac amrywiol o gefndiroedd a phrofiadau i ymuno.

Mae eich barn yn bwysig a bydd yn ein helpu ni a darparwyr addysg fel ysgolion a cholegau i gefnogi disgyblion a’u teuluoedd yn well.

Pam ymuno â’r Gymuned Rhieni a Gofalwyr?

  • Cyfle i gymryd rhan mewn arolygon cenedlaethol ac/neu ymuno â grwpiau ffocws ar-lein.
  • Cyfle i roi eich barn ar feysydd addysg pwysig fel lles disgyblion, y cwricwlwm newydd a chymorth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Cyfle i rannu eich barn ar sut rydym yn arolygu, a bod ymysg y cyntaf i ddarganfod ein canfyddiadau.
  • Galluogi rhieni a gofalwyr o bob cefndir a phob rhan o Gymru i ddylanwadu ar ein gwaith

Bydd aelodau o’n Cymuned Rhieni a Gofalwyr yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn arolygon cenedlaethol ac/neu ymuno â grwpiau ffocws ar-lein.

Cwblhewch y ffurflen isod er mwyn cofrestru eich diddordeb i fod yn rhan o’r Gymuned.

Ymunwch heddiw

I gofrestru’ch diddordeb, ymunwch â’r Gymuned Rhieni a Gofalwyr, llenwch y ffurflen fer hon:

    Amdanoch chi

    Am eich plentyn/plant

    Ble mae eich plentyn yn mynychu?

    Beth yw rôl rhieni, gofalwyr a dysgwyr yn ystod arolygiad?

    Rydym yn credu bod cydweithio gyda rhieni, gofalwyr, a dysgwyr yn cynnig cyfle gwych i yrru a siapio ein gwaith.

    Mae llawer o wahanol rolau yr ydym i gyd yn eu chwarae yn ystod ymweliad.

    Mwy o wybodaeth