Twf Swyddi Cymru+
Mae Twf Swyddi Cymru+ (TSC+Mwy) yn rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i chynnwys yn y Gwarant i Bobl Ifanc (cynnig cymorth gwarantedig ar gyfer pobl ifanc dan 25 mlwydd oed yng Nghymru i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig). Mae’r rhaglen yn rhaglen cymorth hyfforddiant, datblygiad a chyflogadwyedd unigoledig ar gyfer pobl ifanc 16–19 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru, yr aseswyd nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant amser llawn (NACH). Ei nod yw rhoi’r medrau, y cymwysterau a’r profiad i bobl ifanc gael swydd neu hyfforddiant pellach. Mae’n rhaglen hyblyg sydd wedi’i chynllunio o amgylch y person ifanc. Amcanion allweddol y rhaglen yw lleihau nifer y bobl ifanc NACH a chynorthwyo pobl ifanc i wneud y gorau o’u potensial. Cyflwynir y rhaglen gan 5 ddarparwr arweiniol ledled Cymru o dan gontract gan Lywodraeth Cymru.
Darllenwch yr adroddiadau a’r argymhellion o’n hymweliadau rhanbarthol:
Adroddiad mewnwelediadau
Edrychwch ar ein hadroddiad mewnwelediadau diweddaraf ar raglen ieuenctid Twf Swyddi Cymru+:
Darllenwch fwy yma