Trefniadau Estyn ar gyfer sicrhau ansawdd arolygiadau
Y ddogfen hon yw polisi a gweithdrefnau Estyn ar gyfer sicrhau ansawdd arolygiadau. Mae sicrhau ansawdd yn ein helpu i gynnal safonau uchel yn ein gwaith ond mae hefyd yn rhoi adborth gwerthfawr i ni er mwyn helpu gwella ein dulliau a’n harferion yn barhaus.
Hefyd, mae’r ddogfen hon yn cyflwyno’r gweithdrefnau y bydd Estyn yn eu dilyn wrth ddelio ag unrhyw berfformiad gan Arolygwyr Cofrestredig, Arolygwyr Ychwanegol, Arolygwyr Lleyg neu Arolygwyr Cymheiriaid yn ystod arolygiadau nad yw’n bodloni ein gofynion.
Mae telerau cyffredinol y polisi hwn wedi bod ar waith er mis Medi 2010. Diweddarwyd y ddogfen ar gyfer Medi 2017 i adlewyrchu newidiadau i’n trefniadau arolygu o ran arolygwyr dan gontract, ac yn 2021 i adlewyrchu dileu barnau crynodol. Cyflwynom systemau ar y we ar gyfer llenwi ffurflenni sicrhau ansawdd o Hydref 2011 ymlaen, a diweddarwyd y rhain o Fedi 2021, ac eto o Fedi 2024. Diweddarwyd y ddogfen ymhellach i adlewyrchu’r newidiadau yn y sector nas cynhelir, ymweliadau dros dro a rôl Estyn wrth sicrhau ansawdd cyfieithiadau.
Mae Estyn yn sicrhau ansawdd ein holl adroddiadau arolygiadau cyn eu cyhoeddi. Yn ychwanegol, mae cyfarwyddwyr cynorthwyol, cyfarwyddwyr strategol ac AEF eraill yn ymweld â chyfran o ddarparwyr sy’n cael arolygiadau bob blwyddyn, i sicrhau ansawdd gwaith y tîm.
Ers Medi 2016, daeth pob arolygiad yn y sector meithrin nas cynhelir dan arweiniad Estyn neu AGC. Newidiodd y trefniadau sicrhau ansawdd hefyd i sicrhau bod ansawdd pob arolygiad yn y sector nas cynhelir yn cael ei sicrhau cyn cyhoeddi’r adroddiadau. Mae’r polisi hwn yn cyflwyno’r trefniadau sicrhau ansawdd ar gyfer arolygiadau dan arweiniad Estyn yn y sector.
Mae rôl ein gweithlu arolygwyr allanol yn werthfawr. Mae’r trefniadau hyn hefyd yn ein helpu i’w cynorthwyo â’u datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer arolygu.