Llythrennedd Cymraeg Archives - Estyn

Tag: Llythrennedd Cymraeg


Tag: Llythrennedd Cymraeg


Byddai neb wedi gallu rhagweld y newidiadau sydd wedi dod yn sgil pandemig COVID-19. Wrth i leoliadau orfod cau eu drysau i fwyafrif eu dysgwyr ym mis Mawrth, fe wnaeth staff ac arweinwyr ledled Cymru ymroi i’r her i barhau i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr mewn gwahanol ffyrdd. 

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb
Mewn tirwedd sy’n newid, mae cyfathrebu rheolaidd a chlir â dysgwyr, teuluoedd a staff wedi bod yn hanfodol.  Mae arweinwyr yn rhoi diweddariadau rheolaidd i staff, cynhelir cyfarfodydd staff ar-lein, a rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf i deuluoedd trwy negeseuon e-bost.  

Mae arweinwyr a staff yn gweithio’n agos gyda theuluoedd i sefydlu disgwyliadau clir.  Mae adnabod eich dysgwyr, eich teuluoedd a’ch cymunedau yn dda wedi bod yn allweddol i ymgysylltu’n llwyddiannus â dysgu o bell.  

Mae rhieni wedi gwerthfawrogi’r ffaith fod ysgolion wedi ceisio cynnal ymdeimlad o gymuned trwy wasanaethau ar-lein, a pharhau i ddathlu cyflawniadau, er enghraifft.  Yn aml, mae hyn wedi gwella ymgysylltu, yn enwedig ar gyfer dysgwyr iau.

Wrth i hyd yr amser y mae dysgwyr wedi bod allan o ysgolion, lleoliadau a darparwyr eraill, gynyddu, mae cyfathrebu wedi esblygu i gynnwys adborth gan ddysgwyr a rhieni ar ansawdd y ddarpariaeth, a’r addasiadau a allai fod yn angenrheidiol.

Cymorth â lles
Mae ysgolion, lleoliadau a darparwyr eraill wedi cynnal eu rhwydweithiau cymorth trwy amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys galwadau ffôn, negeseuon testun, negeseuon e-bost ac ymweliadau cartref gan swyddogion lles. 

Dosbarthwyd parseli bwyd, a rhoddwyd offer digidol ar fenthyg er mwyn caniatáu i ddysgu barhau.  Mewn ychydig o achosion, crëwyd gweithgareddau lles ar-lein, gan gynnwys ymlacio a hunanfyfyrio, i hyrwyddo lles staff a dysgwyr.

Mae heriau penodol o ran dysgu o bell ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed.  Yn yr arfer fwyaf effeithiol, rhoddwyd arweiniad a chymorth ychwanegol a chynlluniau cymorth wedi’u haddasu i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Bu un ysgol arbennig yn trefnu ymweliadau bws mini o gwmpas y sir ddwywaith yr wythnos.  Roedd hyn yn galluogi i adnoddau ffisegol gael eu dosbarthu i deuluoedd, er enghraifft cymhorthion symudedd ac offer TGCh.  Roedd hyn wedi bod yn boblogaidd iawn gyda staff a theuluoedd, ac yn galluogi rhyngweithio wyneb yn wyneb o bellter diogel. 

Mewn un UCD, parhaodd yr ychydig o ddisgyblion sy’n derbyn cwnsela yn yr UCD â’u sesiynau unigol naill ai drwy’r e-bost, trwy negeseuon testun neu dros y ffôn.  Mae pob un o’r cwnselwyr bellach wedi cwblhau modiwl er mwyn cynnig cwnsela dros y ffôn.

Cyflenwi digidol arloesol
Mae staff wedi darparu gweithgareddau dysgu trwy ddefnyddio dulliau arloesol a gyflwynir trwy amrywiaeth o blatfformau ar-lein. 

Mae staff o ganolfan adnoddau arbenigol mewn ysgol uwchradd brif ffrwd wedi darparu amserlen wythnosol o weithgareddau rhyngweithiol i’w disgyblion ar blatfformau ffrydio byw priodol.  Mae’r gweithgareddau difyr hyn yn cynnwys gwylio bywyd gwyllt, arwydd Makaton yr wythnos, gweithgareddau dawns a ffitrwydd, sesiynau crefft, sesiynau canu a gweithgareddau dangos a dweud. 

Mewn un UCD, darparodd staff weithgareddau dysgu wedi’u cynllunio ar gyfer disgyblion, fel technegau ymlacio, storïau cymdeithasol, llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â gwasanaethau dosbarth a’r cyfle i ddilyn rhaglen fasnachol i hyrwyddo eu lles cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Darpwyd amserlenni gweledol, amcanion gwersi a meini prawf llwyddiant i geisio cynnal trefn debyg i’r fformat gwersi arferol.

Cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg
Mewn llawer o ysgolion cyfrwng Cymraeg, daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg. 

Mae staff wedi ceisio goresgyn hyn trwy ddarparu gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion sy’n eu hannog i ddefnyddio eu Cymraeg mor naturiol ag y bo modd.  Mae’r ffocws ar ddarllen, deall ac, yn bwysicaf, siarad Cymraeg.  Mae cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu cyflwyniadau a chreu eu fersiynau eu hunain o ganeuon a rhigymau Cymraeg wedi bod yn hynod lwyddiannus mewn ysgolion cynradd. 

Cefnogi dysgu proffesiynol
Mewn ychydig o ddarparwyr, cyflwynwyd rhaglenni cynhwysfawr o weithgareddau dysgu proffesiynol i’r holl staff, gan ganolbwyntio ar hyfforddiant dysgu cyfunol.  

Mae’r darparwyr wedi cefnogi’r hyfforddiant hwn trwy ddefnyddio set o egwyddorion arweiniol ar gyfer cynllunio a chyflwyno addysgu, hyfforddi ac asesu.  Mae staff yn cael eu hyfforddi a’u diweddaru mewn defnyddio technoleg ddigidol a phlatfformau ar-lein.  

Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Cynhaliwyd arolwg o ddysgwyr a staff ar draws pob sector i gael adborth ar eu profiadau yn ystod y cyfnod clo, a helpu llywio cynllunio ar gyfer cyflwyno dysgu yn y dyfodol. 

Y negeseuon allweddol a gafwyd gan ddysgwyr yw eu bod yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu hathrawon ac amgylchedd yr ysgol.  Er bod llawer ohonynt yn dweud eu bod yn ymdopi’n dda â chyflwyno o bell, mae lleiafrif ohonynt yn cyfaddef eu bod weithiau yn ei chael yn anodd cynnal cymhelliant a chynnal ymgysylltiad â gweithgareddau dysgu o bell.

Mae arweinwyr wedi llunio cynlluniau adfer cynhwysfawr.  Mae’r rhain yn cynnwys agweddau rhesymegol a threfniadau’r cwricwlwm, ac yn amlinellu cyfrifoldebau aelodau o staff a strategaethau cyfathrebu ar gyfer rhieni.