Tag: Dysgwyr
Dechrau sgwrs
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd i ddysgwyr siarad yn agored a gonest am eu profiadau yn yr ysgol. Rydyn ni eisiau helpu, felly mewn arolygiadau uwchradd ac arolygiadau pob oed, rydym wedi datblygu ymagwedd newydd ar gyfer gwrando ar ddysgwyr i annog sgyrsiau mwy ystyrlon am eu profiadau yn yr ysgol.
Fe addasom ein dulliau fel rhan o’n gwaith i gasglu adborth gan ddysgwyr am “eu profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru”.
Beth yw ein hymagwedd newydd?
Mae dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn, felly rydym:
- Yn creu amgylchedd cyfforddus. Rydym yn gwahodd dysgwyr i ddod â ffrind i’r sesiwn, sy’n eu hannog i fod yn agored wrth drafod eu profiadau yn yr ysgol.
- Yn rhoi sicrwydd i ddysgwyr y bydd yr hyn y maent yn sôn amdano yn cael ei gasglu at ei gilydd ac y caiff themâu allweddol eu rhannu’n ddienw. Ni fyddwn yn rhannu sylwadau dysgwyr â staff yr ysgol nac unrhyw un y tu allan i Estyn, fel arfer, oni bai ein bod yn poeni am eu diogelwch.
Gweithgareddau
Rydym yn defnyddio cyfres o weithgareddau i ddechrau ein sgyrsiau, gan gynnwys:
- Jariau llais y dysgwr – mae dysgwyr yn ysgrifennu eu barn yn ddienw ar nodiadau gludiog, heb fod angen siarad o flaen eu cyfoedion. Mae hyn yn arbennig o lwyddiannus pan fyddwn yn gofyn cwestiynau anodd, fel ‘A yw dysgwyr yn ymddwyn yn dda yn eich ysgol chi?’ ac ‘A yw dysgwyr yn cael eu bwlio yn eich ysgol chi?’
- Stopio, dechrau, dal ati – mae dysgwyr yn ysgrifennu’r hyn maent yn credu y dylai eu hysgolion stopio, dechrau a dal ati i’w wneud. Gallai hyn gynnwys unrhyw agwedd ar yr ysgol, er enghraifft addysgu, ymddygiad a lles.
- Rydw i am i’r ysgol wybod – mae dysgwyr yn rhannu gwybodaeth maent yn credu y mae’n bwysig i’w hysgol wybod amdani. Gallai hyn fod yn sylw agored sy’n gadarnhaol neu’n negyddol, neu gall fod yn ymwneud â maes arolygu penodol (er enghraifft agweddau ar y cwricwlwm, diogelu neu les disgyblion).
- Byrddau gwyn – gall y rhain gynnig fforwm agored i ddysgwyr. Yn “Emoji Madness”, mae dysgwyr yn tynnu llun ‘emoji’ i esbonio sut maent yn teimlo am agweddau penodol ar waith yr ysgol. Yn aml, mae ymatebion dysgwyr yn arwain at fwy o drafodaeth am bwnc.
Sut mae’n gwneud gwahaniaeth?
Pan mae dysgwyr yn teimlo’n gyfforddus, maen nhw’n fwy agored am eu profiadau, sy’n rhoi mewnwelediad gwell i ni i’w safbwyntiau a’u pryderon. Ers peilota’r ymagweddau hyn, rydym wedi sylwi bod cyfran fwy o ddysgwyr yn fwy parod i rannu eu hadborth gyda ni. Mae rhoi llais annibynnol i ddysgwyr yn ein helpu i sbarduno newid gwirioneddol mewn addysg yng Nghymru a gwelliannau yn ein gwaith.