Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid 2024-2027 - Estyn

Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid 2024-2027


Buom yn gweithio’n agos â dysgwyr, rhieni, gweithwyr addysg proffesiynol ac arolygwyr i ddatblygu ein fframwaith arolygu newydd, Arolygu ar gyfer y Dyfodol (2024-2030). Roedd y trafodaethau gwerthfawr a gonest a gawsom gyda chi o gymorth i ni addasu’r modd yr ydym yn gweithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant.

Rydym nawr eisiau meithrin y perthnasoedd agosach hyn i wneud yn siŵr fod ein gwaith yn parhau i gefnogi welliant. Mae angen i ni gael strategaeth hyblyg i ymgysylltu â chi, ein rhanddeiliaid, a gwneud yn siŵr fod ein gwaith yn gweddu i’ch anghenion chi mewn addysg a hyfforddiant.

Wrth i’n hymagwedd newydd at arolygu gael ei chyflwyno yn y rhan fwyaf o sectorau, byddwn yn parhau i weithio gyda chi i fireinio ein cynlluniau. Byddwn yn ymgynghori’n eang, gan ddefnyddio gwahanol ddulliau cyfathrebu i gyrraedd grwpiau newydd a gwahanol o randdeiliaid, ac yn defnyddio’ch barn i helpu cynllunio ein gweithgareddau a gwella’n gwaith.

Drwyddi draw, byddwn yn parhau i sicrhau bod dysgwyr yn ganolog i arolygiadau a bod ein gwaith yn adlewyrchu eich disgwyliadau. Mae eich hyder a’ch ymddiriedaeth yn ein gwaith yn flaenoriaeth uchel i ni. Mae meithrin yr hyder a’r ymddiriedaeth hon yn dibynnu ar ein gweledigaeth strategol glir am y modd y mae ein gwaith yn helpu gwella addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Er y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill, byddwn bob amser yn llais annibynnol. Mae’r strategaeth hon i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ein helpu i feithrin ein perthynas â chi a gwrando ar eich syniadau. Rydym yn defnyddio eich adborth a’ch mewnwelediadau i wella’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu ac yn cyflawni ein hamcanion strategol. Darllenwch ymlaen i weld sut rydym yn gwrando arnoch, yn eich cynnwys yn ein gwaith ac yn eich hysbysu amdano.