Rolau arolygwyr


Beth yw rolau ein harolygwyr?

Mae pob tîm arolygu yn dod â grŵp o arolygwyr sydd â gwahanol arbenigeddau a phrofiadau ynghyd.

Mae pob arolygydd yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau arolygu, gan gynnwys teithiau dysgu, arsylwi sesiynau, craffu ar samplau o waith disgyblion, cyfweld â staff a chyfarfod â dysgwyr.

Bydd pob tîm yn cael ei arwain naill ai gan AEF, arolygydd cofrestredig neu arolygydd cofrestredig meithrin. Bydd pob tîm yn cynnwys un neu fwy o’r canlynol:


Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF)

Arolygwyr sydd â chefndir a phrofiad mewn sectorau penodol ac sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Estyn yw’r rhain.


Arolygydd Cymheiriaid (ACym)

Pobl sydd â rôl arwain/rheoli mewn ysgol neu ddarparwr, ynghyd â phrofiad sylweddol o addysgu neu hyfforddiant. A hwythau wedi’u recriwtio a’u hyfforddi gennym ni, mae Arolygwyr Cymheiriaid yn aelodau llawn o dîm arolygu ac yn cyfrannu at bob maes arolygu. Gallai Arolygydd Cymheiriaid ysgol arolygu ddwy neu deirgwaith y flwyddyn.


Arolygydd Cofrestredig (ACof) ac Arolygydd Cofrestredig Meithrin (ACofM)

Maent yn arwain arolygiadau mewn ysgolion neu leoliadau meithrin nas cynhelir, gan gyflawni’r un rôl ag AEF. Rydym yn recriwtio, yn hyfforddi ac yn cadw rhestr o Arolygwyr Cofrestredig/Arolygwyr Cofrestredig Meithrin ‘cymeradwy’ sy’n gweithio i ni dan gontract.


Arolygydd Ychwanegol (AY): Arolygydd Tîm / Arweiniol

Arolygwyr allanol sydd wedi’u hyfforddi gan Estyn yw’r rhain ac sy’n gweithio i ni dan gontract. Gallant ymuno â thîm arolygu neu arwain arolygiad, gan gyflawni’r un rôl ag AEF.


Arolygydd Ychwanegol: Secondai

Cânt eu secondio gan gyflogwr (e.e. ysgol neu awdurdod lleol) i weithio’n amser llawn fel arolygydd am gyfnod penodedig, hyd at ddwy flynedd fel arfer. Maent yn cyflawni’r un gwaith ag AEF, gan ymgymryd ag arolygon a gwaith arall yn eu maes arbenigedd.


Arolygydd Lleyg

Aelodau o’r cyhoedd nad oes ganddynt gefndir ym myd addysg yw’r rhain. Rydym yn hyfforddi’r unigolion hyn i ymuno â’n harolygiadau o ysgolion. Mae’r arolygydd lleyg yn canolbwyntio ar y profiad ysgol i ddisgyblion a chyfraniad eu perthnasoedd a’r amgylchedd at eu diogelwch, eu hagweddau at ddysgu a’u lles.


Enwebai

Mae’r enwebai’n gynrychiolydd o’r ysgol ar y tîm arolygu ar hyd wythnos yr arolygiad. Fel arfer, y pennaeth sy’n ymgymryd â’r rôl hon ac mae hyn yn sicrhau bod cyfle i’r ysgol fod â llais. Mae’n golygu y gellir rhoi gwybodaeth a chyd-destun ychwanegol a chynnig eglurhad ar feysydd sy’n cael eu trafod gan y tîm arolygu.   


Arolygydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Ymarferwyr sydd â chymwysterau a phrofiad addas o awdurdodau lleol, ysgolion prif ffrwd sydd â dosbarthiadau arbenigol awdurdod lleol (LASC) neu o ysgolion arbennig, yw arolygwyr ADY ychwanegol, sy’n cael eu defnyddio i arolygu dosbarthiadau arbenigol awdurdodau lleol mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed.


Swyddogion Gwella Ysgolion

Mae swyddogion gwella ysgolion sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan bartneriaethau gwella ysgolion yn ymuno fel arolygwyr ychwanegol mewn arolygiadau o ysgolion cynradd neu uwchradd mawr iawn.  


Arolygwyr Cymheiriaid Thematig

Weithiau, rydym yn gwahodd arolygwyr cymheiriaid i wneud cais i ymuno â ni ar adolygiad thematig. Bydd arolygwyr cymheiriaid yn dod â’u gwybodaeth sector ac arbenigol ddiweddar a pherthnasol i ymuno â thimau adolygu trwy ymweld â darparwyr dethol fel rhan o’r adolygiad thematig a chyfrannu canfyddiadau i gyfarfodydd tîm yr adolygiad.


Swyddi gwag a chyfleoedd

Ewch i’n tudalen swyddi i weld pa gyfleodd gweithio sydd ar gael ac i dderbyn hysbysiadau.

Gweithio gyda ni
Dwy fyfyrwraig mewn gwisgoedd ysgol ac apronau yn coginio mewn cegin ystafell ddosbarth, dan arweiniad hyfforddwr sy'n sefyll rhyngddynt.