Rhestr termau yn ymwneud ag arolygiadau o waith ieuenctid


AEF: Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Arolygwyr yw’r rhain sy’n gweithio i Estyn i sicrhau ansawdd darpariaeth ar ran y Goron a Llywodraeth Cymru.

CydAr: Cydlynydd Arolygu

Y CydAr yw’r cyswllt cyntaf rhwng y darparwr a’r tîm arolygu. Mae’n rhoi gwybod i’r darparwr am arolygiad drwy alwad ffôn, cyn anfon y dogfennau cefndir perthnasol. Bydd yn cysylltu’n agos â’r enwebai cyn ac ar ôl yr arolygiad, gan gynnwys y cyfnod sicrhau ansawdd a gwirio cywirdeb ffeithiol cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

FfCA: Ffurflen cyswllt arolygiad

Mae’r ffurflen hon yn cael ei hanfon at y darparwr ar ôl ei hysbysu. Mae’r darparwr yn rhannu manylion ymarferol a chyd-destunol sy’n helpu’r broses arolygu. Fel arfer, caiff y ffurflen hon ei llenwi gan y cydlynydd arolygu yn ystod galwad ffôn â’r darparwr cyn yr arolygiad.

YAR: Ystafell arolygu rithwir

Mae hon yn system ddiogel ar y we, wedi’i diogelu gan gyfrinair, sy’n galluogi darparwyr i lanlwytho gwybodaeth cyn ac yn ystod yr arolygiad a lawrlwytho arweiniad gan yr arolygiaeth am y broses arolygu.

AC: Arolygydd cofnodol

Yr arolygydd cofnodol fydd yn arwain yr arolygiad. Bydd yr AC yn cysylltu â’r darparwr a’r enwebai cyn ac yn ystod yr arolygiad.

Enwebai:

Mae’r enwebai yn un o gynrychiolwyr y darparwr sy’n cysylltu â’r AC, yn helpu i reoli’r arolygiad yn ymarferol ac yn mynychu cyfarfodydd y tîm arolygu. Dylai’r enwebai fod â swydd ddigon uchel yn y sefydliad sy’n cael ei arolygu i allu ‘gwneud i bethau ddigwydd’ a deall materion yn llawn. Dim ond un enwebai all fod ar gyfer arolygiad.

SAAr: Sicrhau ansawdd arolygiadau

Bydd arolygydd profiadol yn ymweld â’r darparwr yn ystod yr arolygiad ac yn siarad â’r enwebai ac uwch arweinwyr am eu profiad o’r arolygiad, yn ogystal â chysgodi aelodau o’r tîm arolygu i sicrhau eu bod yn cwblhau eu gwaith i’r safon a ddisgwylir gan Estyn.

SAAd: Sicrhau ansawdd adroddiadau

Ar ôl yr arolygiad, caiff yr adroddiad drafft ei olygu gan ddau olygydd (AEF/cyfarwyddwyr profiadol Estyn) a bydd yr arolygydd arweiniol yn ymateb i unrhyw newidiadau sy’n cael eu hawgrymu. Ar ôl golygu, bydd y darparwr yn cael copi o’r adroddiad drafft ac yn cael cyfle i wirio’r adroddiad hwn o ran ei gywirdeb ffeithiol. Bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol sy’n gyfrifol am y sector hefyd yn gwirio’r adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi ar wefan Estyn.  

Arolygydd Cymheiriaid:

Mae’r arolygydd cymheiriaid yn aelod llawn o dîm Estyn a bydd yn gweithio mewn rôl uwch mewn darparwr gwaith ieuenctid arall. Daw arolygwyr cymheiriaid â gwybodaeth gyfredol werthfawr am y sector i wella gwaith y tîm arolygu. Rhaid i arolygwyr cymheiriaid gwblhau eu hyfforddiant cychwynnol yn llwyddiannus a mynychu hyfforddiant diweddaru yn flynyddol er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r gwaith y mae angen iddynt ei gwblhau yn ystod y broses arolygu. 

AY: Arolygydd ychwanegol

Wrth arolygu darparwyr mwy a/neu ddarparwyr aml-safle, efallai y caiff arolygwyr ychwanegol eu pennu i gynyddu gallu tîm Estyn a sicrhau bod pob agwedd ar yr arweiniad yn cael sylw trylwyr. Mae arolygydd ychwanegol yn arolygydd profiadol a hyfforddedig sydd dan gontract ag Estyn i gynnal arolygiad.

FfMT: Ffurflen mewnbwn tîm

Yn ystod yr arolygiad, bydd pob aelod o’r tîm arolygu yn cofnodi eu harsylwadau ar ffurflen mewnbwn tîm unigol yn yr ystafell arolygu rithwir.

FfMA: Ffurflen mewnbwn adrodd

Ar ôl yr arolygiad, bydd yr arolygydd arweiniol yn coladu’r holl wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr arolygiad ar y ffurflen mewnbwn adrodd. Bydd y ffurflen hon yn cynnwys gwerthusiadau drafft o feysydd gwahanol y fframwaith arolygu. Pan fydd y ffurflen mewnbwn adrodd wedi’i llenwi, bydd yr arolygydd arweiniol yn anfon y ffurflen at y golygydd cyntaf.

Cyfarfod Tîm:

Bydd y tîm arolygu’n cynnal cyfarfod tîm bron bob dydd yn ystod yr arolygiad, lle byddant yn rhannu myfyrdodau a chanfyddiadau ac yn trafod materion. Bydd yr enwebai’n mynychu’r cyfarfodydd hyn a gellir ei wahodd i egluro materion neu ddarparu tystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol o bryd i’w gilydd. Disgwylir i’r enwebai gadw trafodaethau’r tîm yn gyfrinachol a pheidio â’u rhannu â chydweithwyr o fewn y darparwr.

Cyfarfod Adborth:

Cyfarfod ar ddiwedd yr arolygiad yw hwn, rhwng y tîm a nifer fach o gynrychiolwyr y darparwr, lle mae’r tîm yn rhannu canfyddiadau’r arolygiad â’r darparwr. Fel arfer, bydd y tîm yn darllen yr adroddiad ar goedd. Gall y darparwr godi materion yn ymwneud â chywirdeb ffeithiol ond peidio â chwestiynu unrhyw werthusiadau (barnau) yn yr adroddiad.

Deialog Broffesiynol:

Os yw’n bosibl, bydd arolygydd yn cynnal trafodaeth fer â gweithwyr ieuenctid ar ôl arsylwi sesiwn.

‘Cyfrannau Estyn’ sy’n cael eu defnyddio i feintioli gwerthusiadau:

Yn ystod cyfarfodydd tîm, bydd arolygwyr yn aml yn cyfeirio at y meintiolwyr canlynol wrth drafod eu gwerthusiadau o arfer a chynnydd.

bron pob un = gydag ychydig iawn o eithriadau
y rhan fwyaf = 90% neu fwy
llawer = 70% neu fwy
mwyafrif = dros 60%
tua hanner = yn agos at 50%
lleiafrif = islaw 40%
ychydig = islaw 20%
ychydig iawn = llai na 10%