Rheoli gwrthdaro buddiannau posibl yn gysylltiedig â gwaith arolygu
Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut bydd Estyn yn rheoli gwrthdaro buddiannau posibl ac yn lleihau’r risg y bydd amgyffrediad o duedd yn gysylltiedig â gwaith arolygu. Dylid datgelu a chofnodi pob gwrthdaro a gwrthdaro posibl, boed yn wrthdaro gwirioneddol neu’n amgyffrediad o wrthdaro, cyn gynted â phosibl a rhaid eu datgelu cyn bod Estyn yn cadarnhau y bydd unigolyn yn cael ei ddefnyddio mewn arolygiad. Os bydd gan arolygydd unrhyw amheuon neu os bydd angen rhagor o gyngor arno, dylai gysylltu ag Estyn cyn gynted ag y daw i wybod am y gwrthdaro posibl.