Polisi urddas yn y gwaith
Mae’r polisi hwn yn ddiwygiad o Bolisi blaenorol Estyn ar Fwlio ac Aflonyddu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gweithio yn rhydd o bob math o fwlio, aflonyddu, gwahaniaethu ac erledigaeth, yn unol â’n gwerthoedd a’n hymddygiadau sefydliadol a’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae gan bob aelod o staff yr hawl i gael eu trin ag urddas yn y gwaith.
Yn Estyn, mae gennym ymagwedd dim goddefgarwch at unrhyw fath o fwlio, aflonyddu, erledigaeth neu fygwth. Rydym yn cydnabod bod ymddygiadau o’r fath yn cael effaith negyddol ar iechyd a lles personol a thîm, ein henw da fel sefydliad ac ar sut rydym yn cyflwyno ein gwasanaethau.