Polisi Teithio a Chynhaliaeth
Datblygwyd rheolau a phrosesau Estyn ynghylch teithio a chynhaliaeth yng ngoleuni’r egwyddorion canlynol:
a) yr angen am effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a gwerth am arian
b) pwysigrwydd sicrhau bod hawlwyr yn cael eu had-dalu’n llawn ac yn brydlon am dreuliau a gafwyd yn benodol ac o reidrwydd
c) yr angen bod y trefniadau gweinyddol yn cyfateb i’r lleiaf sy’n gydnaws ag atebolrwydd digonol
d) yr angen nad yw taliadau’n peri rhwymedigaeth dreth i’r unigolyn nac i Estyn
e) cymhwyso ar sail deg a chyfartal