Polisi Sicrhau Gwybodaeth - Estyn

Polisi Sicrhau Gwybodaeth


Mae gan Estyn ddyletswydd i gynnal diogeledd y wybodaeth y mae’n ei thrin – mae hyn yn golygu diogelu data rhag mynediad anawdurdodedig, sicrhau ei chywirdeb a’i huniondeb, a threfnu bod y wybodaeth ar gael i’r rhai sydd ei hangen.

Mae’r polisi hwn yn rhan o’n fframwaith o bolisïau a gweithdrefnau ar reoli gwybodaeth ac mae’n berthnasol i’r holl gyflogeion a phobl sy’n gweithio ar ein rhan. Rhaid i staff a phobl eraill sy’n gweithio i ni ddilyn y rheolau, polisïau a’r canllawiau a ddatblygwyd gennym. Hefyd, rhaid iddynt ddeall eu cyfrifoldebau personol wrth greu, rhannu a storio gwybodaeth mewn perthynas â’n gwaith.