Polisi Iechyd a Lles Estyn
Mae Estyn yn cydnabod bod iechyd a lles da cyflogeion yn gwneud cyfraniad hanfodol at berfformiad sefydliadol ac yn helpu bywyd unigolion yn y gwaith a thu hwnt. Rydym wedi ymrwymo i
- ddarparu amgylchedd gwaith diogel ac iach sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi iechyd a lles pob un o’n staff
- codi ymwybyddiaeth am y ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar iechyd a lles, p’un a yw’r rhain yn y gweithle neu’r tu allan
- annog ffordd iach o fyw
- darparu gwiriadau iechyd rheolaidd ar gyfer y staff hynny sydd eisiau cymryd rhan
- cefnogi staff lle mae ganddynt broblemau fel problemau iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol, cyffuriau neu sylweddau, fel ymateb cyntaf