Polisi gwrth-dwyll a gwrthllwgrwobrwyo
Mae Estyn yn gofyn i’r holl unigolion sy’n gweithio i’r sefydliadau weithredu gyda gonestrwydd ac unplygrwydd bob amser ac i ddiogelu’r adnoddau cyhoeddus y maent yn gyfrifol amdanynt. Mae’r polisi hwn:
a. yn nodi cyfrifoldebau ar gyfer sicrhau bod cyfleoedd i gyflawni twyll a llygredigaeth yn cael eu lleihau i’r lefel risg lleiaf posibl;
b. yn esbonio beth i’w wneud os ydych yn amau twyll; ac
c. yn esbonio’r camau y bydd rheolwyr yn eu cymryd mewn achosion tybiedig o dwyll.