Polisi Gofalwyr
Mae Estyn yn cydnabod pwysigrwydd cynnig gweithle cefnogol i weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Ein nod yw galluogi unigolion i ymgymryd â’u cyfrifoldebau gofalu ac, ar yr un pryd, teimlo’n ymgysylltiedig ac yn gynhyrchiol yn y gwaith maen nhw’n ei wneud.
Un o’r ffactorau allweddol o ran cael cynhwysiant yn gywir yw darparu’r cymorth cywir i ofalwyr, a sicrhau bod ein diwylliant yn eu galluogi i gyflawni eu hymrwymiadau yn y gwaith a gartref. Mae’r polisi hwn yn cyflwyno’r cymorth sydd ar gael i weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.