Polisi Estyn ar wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i rai sy’n gweithio i Estyn
Mae gan Estyn ddyletswydd gofal i ddiogelu lles plant a grwpiau agored i niwed; wrth ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn, rydym yn gweithredu gofynion statudol perthnasol ac yn mabwysiadu argymhellion adroddiadau perthnasol allweddol y Llywodraeth, fel ymchwiliadau Bichard a Waterhouse. Mae’r polisi hwn yn esbonio sut mae Estyn yn ymgymryd â gwiriadau diogelu, gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), er mwyn helpu i bennu p’un a yw unigolion yn anaddas i ymgymryd â gweithgareddau gwaith penodol ar gyfer Estyn fel eu bod yn cael eu hatal rhag ymgymryd â gwaith o’r fath.