Polisi Cyfle Cyfartal
Mae Estyn yn ymroi i greu amgylchedd gweithio cynhwysol er mwyn gwneud y mwyaf o botensial ei holl weithwyr trwy ddarparu cyfle cyfartal. Byddwn yn sicrhau bod ein sefydliad yn rhydd o unrhyw fath o wahaniaethu anghyfreithlon, erledigaeth, bwlio neu aflonyddu oherwydd oed; anabledd; rhyw; hunaniaeth rywiol (trawsrywiol); ailbennu rhywedd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gredo; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol; cyfrifoldebau am ddibynyddion; patrymau gwaith (fel yr angen neu’r awydd i weithio oriau rhan-amser); neu ystyriaethau amherthnasol eraill.
Ni ddylai unrhyw berson dderbyn triniaeth lai ffafriol oherwydd unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig a restrir uchod. Yn ogystal, byddwn yn sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei roi dan anfantais gan amodau neu ofynion na allwn ddangos bod cyfiawnhad drostynt.
Disgwylir i gyflogeion, secondeion, a rhai eraill sy’n ymgymryd â gwaith ar ein rhan, ymddwyn yn unol â’n polisi cyfle cyfartal o ran eu trafodion gydag aelodau’r cyhoedd a pherthnasoedd gyda chydweithwyr.
Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu, erledigaeth, bwlio nac aflonyddu, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, yn fwriadol nac yn anfwriadol, yn erbyn unrhyw berson ar unrhyw sail o gwbl gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i’r rhai a grybwyllir uchod.