Polisi ac Arweiniad Estyn ar gyfer Rheoli Straen yn y Gweithle - Estyn

Polisi ac Arweiniad Estyn ar gyfer Rheoli Straen yn y Gweithle


Mae Estyn yn gwerthfawrogi pob un o’n cyflogeion a’r cyfraniad a wnânt at ein gwaith. Rydym yn sylweddoli y gall straen a symptomau sy’n gysylltiedig â straen atal pobl rhag perfformio hyd eithaf eu gallu ac y gall effeithio ar eu hiechyd a’u lles cyffredinol.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni dyletswydd y cyflogwr o dan Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 i asesu natur a graddfa risgiau i iechyd yn y gweithle, sy’n cynnwys risgiau o natur seicolegol, ac i gyflwyno mesurau i gael gwared ar y risg honno, neu’i lleihau.

Rydym yn cydnabod yr heriau (sefydliadol a phersonol) sy’n gysylltiedig â nodi straen a’i drafod yn agored, ac yn anelu at gefnogi staff a rheolwyr i fodloni’r heriau hyn.