Polisi ac amserlen cadw cofnodion
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynnal amserlen gadw yn rhestru’r gyfres o gofnodion y mae’r awdurdod yn ei chreu yn sgil ei fusnes. Mae’r amserlen gadw yn nodi hyd y cyfnod y mae angen cadw’r cofnod a’r camau y dylid eu cymryd pan na ellir gwneud rhagor o ddefnydd ohono.
Mae’r amserlen gadw hon yn cynnwys cyfnodau cadw ar gyfer y gwahanol gofnodion sy’n cael eu creu a’u cynnal gan Estyn wrth gyflawni’n busnes. Mae’r amserlen hon yn cwmpasu data sy’n cael ei gadw mewn amrywiaeth o fformatau, ar bapur ac yn electronig.