Polisi a Threfniadau Iechyd, Diogelwch a Thân - Estyn

Polisi a Threfniadau Iechyd, Diogelwch a Thân


Mae’r polisi hwn yn nodi sut mae Estyn yn bodloni ei brif ddyletswyddau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a’r trefniadau penodol sydd wedi’u sefydlu i reoli iechyd (h.y. lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol) a diogelwch (h.y. rhyddid rhag perygl, risg neu niwed). Mae Atodiad 1 yn cynnwys datganiad ysgrifenedig am iechyd a diogelwch a lofnodwyd gan y Prif Arolygydd ac sy’n cael ei arddangos yn swyddfa Estyn. Mae’n nodi prif nodau ac egwyddorion arweiniol Estyn o ran iechyd a diogelwch ac mae’n berthnasol i’r holl staff, ymwelwyr a chontractwyr yn swyddfeydd Estyn.