Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Absenoldeb Arbennig - Estyn

Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Absenoldeb Arbennig


Mae Estyn wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr enghreifftiol. Datblygwyd y polisi hwn ar absenoldeb arbennig i alluogi cyflogeion i ofyn am absenoldeb arbennig er mwyn eu helpu i gyflawni cydbwysedd boddhaol rhwng bywyd a gwaith, tra hefyd yn cydnabod bod anghenion busnes Estyn o’r pwys pennaf. Seiliwyd y polisi hwn ar yr hawl i wneud cais am absenoldeb arbennig a ymgorfforir yn y gyfraith cyflogaeth, ac mae’n amlinellu ymagwedd Estyn at absenoldeb arbennig. Mae darpariaethau’r polisi yn rhagori ar y gofyniad statudol sylfaenol ar gyfer ystyried ceisiadau am amser i ffwrdd.