Polisi a chanllawiau ar gyfer rheoli risg Tachwedd 2023 - Estyn

Polisi a chanllawiau ar gyfer rheoli risg Tachwedd 2023


Mae rheoli risg yn rhan hanfodol o lywodraethu ac arweinyddiaeth ac mae’n hanfodol i sut caiff Estyn ei gyfarwyddo a’i reoli ar bob lefel. Mae’r polisi rheoli risg hwn yn rhan o reolaeth fewnol a Fframwaith llywodraethu corfforaethol – 2023 Estyn ac mae’n darparu fframwaith ar gyfer nodi, asesu a rheoli risgiau a chyfleoedd posibl. Mae’n rhoi arweiniad i bob un o’r staff yn Estyn i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus.