Podlediadau

Sgwrs
Croeso i Sgwrs, cyfres bodlediadau Estyn, ble rydym yn trafod pynciau allweddol sy’n siapio addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Trwy drafodaethau craff gydag arbenigwyr, addysgwyr a dysgwyr, rydym yn rhannu syniadau, profiadau ac arfer orau i gefnogi gwelliant ar draws y sector.
Ymunwch â ni am ystod o sgyrsiau diddorol sy’n hysbysu, ysbrydoli ac yn sbarduno syniadau newydd.

Episodes

Pennod 2
Gwrandewch ar ein podlediad, Sgwrs, ble rydym yn archwilio sut mae darparwyr addysg ledled Cymru yn gweithio tuag at ddyfodol gwrth-hiliol.
Mae’r bennod yn cynnwys cipolwg ymarferol gan arbenigwyr ar sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn meithrin diwylliant gwrth-hiliol a chyngor i addysgwyr ac arweinwyr ysgolion ar weithredu’n ystyrlon.

Pennod 1
Gwrandewch ar ein podlediad, Sgwrs, ble rydym yn archwilio esblygiad y Cwricwlwm i Gymru a sut mae ysgolion yn siapio profiadau dysgu arloesol ac effeithiol.
Mae’r bennod hon yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ysgolion sy’n gweithredu cwricwlwm deinamig a deniadol a chyngor i addysgwyr ar gynllunio cwricwlwm llwyddiannus.