Peilota ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt awdurdodau lleol - Estyn

Peilota ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt awdurdodau lleol


Fel rhan o’n trefniadau arolygu newydd, byddwn yn ymgysylltu’n fwy rheolaidd â Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL).

Prif ddiben ymweliad estynedig arolygwyr cyswllt (YEA) awdurdodau lleol yw cefnogi’r Awdurdod Lleol ar ei gylch gwella trwy ddarparu adborth ar ddau faes ffocws (fel arfer), yn amlygu agweddau sy’n gweithio’n dda ac ystyriaethau ar gyfer gwella.

Mae Estyn wedi datblygu ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt (YEA) awdurdodau lleol newydd i’n helpu i gael dealltwriaeth well o waith parhaus GALlL (Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol).

Mae ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt awdurdodau lleol yn adeiladu ar y deallusrwydd a’r wybodaeth a gasglwyd gan ein Harolygwyr Cyswllt Awdurdodau Lleol (ACALl) dros gyfnod. Maent yn ychwanegu gwerth trwy ddarparu cyfleoedd i gael golwg fanylach ar agweddau ar waith yr ALl. Nid yw ein dulliau gwaith presennol o ran ACALl yn caniatáu ar gyfer triongli digonol i ni roi adborth ysgrifenedig cadarn i ALlau unigol a fyddai’n goroesi craffu.

Mae cyfarwyddwyr bob amser wedi gofyn am adborth ysgrifenedig ar ôl ein hymweliadau cyswllt gan ACALl, a bydd ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt yn ein galluogi i ddarparu hyn.

Fel arfer, bydd ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt yn cael eu cynnal gan 3 AEF dros ddeuddydd, er y gallai hyn amrywio yn dibynnu ar natur y meysydd ffocws a maint yr awdurdod lleol. Rydym hefyd yn ystyried cynnwys Arolygwyr Cymheiriaid ar ein hymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt (yn lle AEF).

Mae arolygiad craidd yn edrych ar ystod eang o feysydd gwasanaeth a sut mae’r awdurdod lleol yn cynnig darpariaeth gydlynol i gefnogi addysg, hyfforddiant a lles plant a phobl ifanc.

Bydd ffocws mwy cul i ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllta byddant yn cynnwys llai o swyddogion llywodraeth leol. Gwahaniaeth clir rhwng ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt ac arolygiadau craidd yw na fydd unrhyw farn ddilynol, ac ni fydd YEA yn sbarduno arolygiad craidd chwaith.

Byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol un tymor ymlaen llaw ein bod yn bwriadu cynnal YEA. Ar yr adeg honno, byddwn yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i awgrymu meysydd ffocws priodol. Gallai’r meysydd ffocws ymwneud ag argymhelliad o arolygiad craidd blaenorol yr ALl; bod yn un o flaenoriaethau presennol yr ALl; yn faes a nodwyd gan Estyn fel rhan o’i waith parhaus gyda’r ALl; neu’n flaenoriaeth genedlaethol.

Yn ystod ymweliadau estynedig arolygwyr cyswllt, bydd y tîm yn cyfarfod â swyddogion a rhanddeiliaid perthnasol ac yn ystyried unrhyw dystiolaeth y mae’r awdurdod lleol yn dymuno’i rhannu. Byddem hefyd yn defnyddio gwybodaeth o arolygiad diweddar o ddarparwyr i lywio’r gwaith hwn. Nid ydym yn disgwyl i’r awdurdod lleol baratoi unrhyw waith papur ychwanegol ar gyfer YEA.  Gallai fod gwaith ychwanegol yn trefnu cyfarfodydd, gyda rhanddeiliaid neu gydag aelodau etholedig a swyddogion.

Canlyniad yr YEA fydd llythyr yn rhoi adborth i’r awdurdod lleol am agweddau o’u gwaith y gallan nhw eu defnyddio i hysbysu eu haelodau etholedig, swyddogion, a phartïon eraill fyddai â diddordeb. Ni fydd YEA yn cynhyrchu gweithgarwch dilynol