Arolygydd Cymheiriad
Sut brofiad yw bod yn Arolygydd Cymheiriaid?
Gall bod yn Arolygydd Cymheiriaid fod yn brofiad da i lawer.
Beth yw Arolygydd Cymheiriaid??
Maent yn aelodau llawn o’r tîm arolygu, ac maent yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau arolygu, gan gynnwys arsylwi sesiynau, craffu ar samplau o waith disgyblion, cyfweld â staff a drafftio adrannau o’r adroddiad arolygu.
Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn cymryd rhan mewn arolygiadau ym mron pob sector yr ydym yn eu harolygu a gallent eu harolygu ddwy neu dair gwaith y flwyddyn.
Pa brofiad sydd ei angen i fod yn Arolygydd Cymheiriaid?
Maent fel arfer yn gweithio mewn rôl reoli mewn ysgol neu ddarparwr sydd hefyd â phrofiad addysgu neu hyfforddi.
I fod yn Arolygydd Cymheiriaid, rhaid i chi:
- gael eich talu ar y golofn gyflog uwch arweinyddiaeth
- bod mewn swydd barhaol
- meddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad arweinyddiaeth
- meddu ar o leiaf bum mlynedd o brofiad addysgu
Sut mae gwneud cais i ddod yn Arolygydd Cymheiriaid?
Mae ein holl rolau yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan. Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag presennol a chofrestrwch ar gyfer hysbysiadau yn y dyfodol.
Swyddi gwag a chyfleoedd gweithio
Gwiriwch i weld a yw Estyn yn cyflogi ar hyn o bryd.
Ein swyddi gwag