Pecyn cymorth Estyn ar gyfer sicrhau ansawdd arolygiadau trwy Ffurflenni Gwerthuso Arolygydd
Pwrpas Ffurflenni Gwerthuso Arolygydd (FfGA) yw galluogi Estyn i gasglu gwybodaeth am ansawdd ei waith arolygu. Rydym yn dadansoddi’r deilliannau ac yn defnyddio’r wybodaeth i hyrwyddo gwaith arolygu o ansawdd uchel, i ymchwilio ymhellach i sefyllfaoedd pan fydd pryderon am ansawdd arolygu ac i lywio ein gwaith hyfforddi a datblygu ar gyfer arolygwyr. Gallem
ddefnyddio’r deilliannau wrth ystyried tendrau a dyfarnu contractau arolygu.
Ym mhob arolygiad, mae’n ofynnol i Arolygwyr Cofnodol lenwi Ffurflen Gwerthuso Arolygydd (FfGA) ynghylch gwaith unrhyw Arolygydd Tîm, Arolygydd Cymheiriaid ac Arolygydd Lleyg sydd dan gontract. Mae’r FfGA ar gael i arolygwyr yn yr Ystafell Arolygu Rithwir (YAR) ar gyfer pob arolygiad. Fel arfer, dylai arolygydd cofnodol gyfeirio sylwadau yn y ffurflen yn uniongyrchol at yr arolygydd cymheiriaid, neu’r arolygydd dan gontract, h.y. yn yr 2il berson (er enghraifft, fe wnaethoch chi hynny, neu nesaf, mae angen i chi weithio ar….). Mae hyn yn sicrhau bod y FfGA yn bersonol a chefnogol. Fodd bynnag, wrth fod yn bersonol, dylai Arolygwyr Cofnodol ofalu nad ydynt yn gwanhau negeseuon anodd, gan fod angen cyfleu’r rhain i’r arolygydd bob amser.
Yn gyntaf, mae’r Arolygwyr Tîm, Cymheiriaid a Lleyg yn cael cyfle i gwblhau hunanasesiad o’u gwaith eu hunain a nodi’r graddau ansawdd (A-D) sy’n briodol, yn eu barn nhw, ar y FfGA. Mae ganddynt 5 niwrnod i wneud hyn ar ôl diwedd yr arolygiad. Rydym yn annog pob arolygydd i fod yn fyfyriol a nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol sy’n gallu ein helpu i deilwra cymorth a hyfforddiant. Wedi hynny, mae Arolygwyr Cofnodol yn llenwi eu rhan nhw o’r FfGA ac yn rhoi graddau ansawdd. Os na fydd rhan yr hunanasesiad wedi’i lenwi ymhen 5 niwrnod, gall yr Arolygydd Cofnodol lenwi’r ffurflen heb unrhyw hunanasesiad gan yr Arolygwyr Tîm, Cymheiriaid a Lleyg. Fel arfer, dylai’r Arolygwyr Cofnodol ystyried y sylwadau o broses Sicrhau Ansawdd (SAAd a SAAr) Estyn cyn llenwi graddau’r FfGA a rhoi adborth ar gyfer eu tîm.
Hefyd, gall fod angen i Arolygwyr Cofnodol ystyried profiad yr Arolygydd Tîm, Cymheiriaid neu Leyg wrth lunio barn. Gall fod angen mwy o gymorth ar arolygydd sy’n ymgymryd â’i arolygiad cyntaf nag arolygydd mwy profiadol.