Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2013-2014

Summary

Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd bob mis Ionawr ac mae’n darparu dadansoddiad a sylwebaeth ar berfformiad addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.

Mae Adroddiad Blynyddol 2013-2014 yn cynnwys canfyddiadau o arolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno.  Eleni, mae ffocws ar y grwpiau hynny o ddysgwyr sydd mewn perygl o dangyflawni ac ar y ffyrdd y mae ysgolion a darparwyr eraill yn eu cynorthwyo i gyflawni, gan gynnwys y rhai â ffactorau risg lluosog.  Hefyd, mae’r adroddiad yn ystyried ffyrdd y gall darparwyr gefnogi dysgwyr mwy abl a’r rhai sydd â Saesneg yn iaith ychwanegol.  Ystyrir effaith lles a phresenoldeb ar gyflawniad, yn ogystal ag ymddygiad a’r ffordd y mae darparwyr yn mynd i’r afael â mathau o fwlio.

Hefyd, mae dadansoddiad manwl o effaith arolygu dilynol, gan edrych ar yr amser y mae ysgolion yn ei gymryd i ddod allan o weithgarwch dilynol, a chrynodeb o’r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol a osodwyd mewn categorïau gweithgarwch dilynol yn flaenorol.  Mae atodiad ar wahân yn cyflwyno data ar ddeilliannau arolygu ar gyfer pob darparwr a arolygwyd yn ystod 2013-2014.

Document thumbnail
Category
Document type size date

pdf, 5.83 MB