Yr allwedd i wella presenoldeb mewn ysgolion cynradd yw dull amlstrategaeth

Erthygl

Mae’r adroddiad, sef ‘Arfer effeithiol o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion cynradd’, yn cynnwys astudiaethau achos o arfer orau gan ysgolion cynradd ledled Cymru. Canfu arolygwyr bod ysgolion â phresenoldeb sy’n gyson dda neu bresenoldeb sydd wedi gwella:

  • Yn creu amgylchedd croesawgar i ddisgyblion
  • Yn meddu ar bolisi presenoldeb clir
  • Yn ymgysylltu’n dda â disgyblion a rhieni
  • Yn dadansoddi ac yn monitro data ynghylch absenoldeb a’r rhesymau drosto
  • Yn arfarnu effaith strategaethau presenoldeb
  • Yn meithrin cysylltiadau cryf â gwasanaethau cymorth cymunedol
  • Yn enwi staff sy’n gyfrifol am wella presenoldeb
  • Yn defnyddio gwobrau a chymhellion priodol
  • Yn cynnwys arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion mewn arfarnu strategaethau presenoldeb

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands:

“Er bod cyfraddau presenoldeb wedi gwella dros y deng mlynedd diwethaf, mae disgyblion mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn colli mwy o ysgol na’r rhai yng ngweddill y DU o hyd.

“Mae arweinwyr ysgolion effeithiol yn deall pwysigrwydd presenoldeb i gyfleoedd bywyd disgyblion. Rwy’n hyderus y bydd y strategaethau sy’n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad yn helpu ysgolion i wella presenoldeb disgyblion a pharhau’r duedd ar i fyny mewn cyfraddau presenoldeb.”

Ysgol Gynradd Parkland yn Abertawe yw un o’r ysgolion yr ymwelodd Estyn â hi. Mae’r astudiaeth achos arfer orau yn yr adroddiad yn amlinellu’r strategaethau llwyddiannus y mae’r ysgol yn eu defnyddio i wella presenoldeb. Mae’r ysgol yn ymgysylltu’n effeithiol â disgyblion a rhieni i godi eu hymwybyddiaeth o bwysigrwydd presenoldeb da. Trwy ddarparu’r gallu i fanteisio ar gymorth gan wasanaethau cymunedol hefyd, ynghyd â monitro ac arfarnu rheolaidd, mae’r ysgol wedi gwella cyfraddau presenoldeb yn llwyddiannus dros y pedair blynedd diwethaf. Mae rhagor o astudiaethau achos i’w gweld yn yr adroddiad llawn.

Mae’r adroddiad yn argymell bod ysgolion yn gweithredu’r holl strategaethau a nodir yn yr adroddiad er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Yn ogystal, dylai awdurdodau lleol a chonsortia hwyluso rhannu arfer orau a sicrhau bod ymgynghorwyr her yn cynorthwyo ac yn herio arweinwyr ysgolion ynghylch presenoldeb disgyblion. Yn olaf, caiff ei argymell bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ei harweiniad o 2011, sy’n amlinellu strategaethau i ysgolion wella presenoldeb a rheoli diffyg prydlondeb.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys:

  • Ymweliadau ag 20 ysgol gynradd
  • Craffu ar ffynonellau data perthnasol ac arolygiadau

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Gynradd Tredegarville, Caerdydd
  • Ysgol Gynradd Herbert Thompson, Caerdydd
  • Ysgol Gynradd St Monica yr Eglwys yng Nghymru, Caerdydd
  • Ysgol Gynradd Christchurch, Sir Ddinbych
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gynradd Parkland, Abertawe
  • Ysgol Gynradd San Helen, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Acton Park, Wrecsam