Ymgyrch i wella addysg yw nod adolygiad o rôl Estyn - Estyn

Ymgyrch i wella addysg yw nod adolygiad o rôl Estyn

Erthygl

Mae gan Estyn rôl allweddol mewn perthynas â chodi safonau ac ansawdd addysgu ac addysg ledled y wlad drwy arolygiadau manwl a chyngor arbenigol. Bydd yr adolygiad yn edrych ar oblygiadau’r diwygiadau helaeth ym maes addysg yng Nghymru yng nghyd-destun rôl Estyn yn y dyfodol.
 
Mae’r adolygiad yn dilyn cyfnewid llythyrau rhwng y Prif Arolygydd ac Ysgrifennydd y Cabinet, pan gytunwyd ganddynt y byddai adolygiad o’r fath yn datblygu cryfderau Estyn, ac yn gwella gwaith yr Arolygiaeth ymhellach.
 
Bydd yr adolygiad, a gaiff ei gynnal gan yr Athro Graham Donaldson, yn dechrau ym mis Awst, a disgwylir adroddiad ar ddechrau 2018.
 
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, “Rwy’n ddiolchgar i Meilyr am gynnig y cam gweithredu hwn.  Rwy’n gwbl gefnogol o’r cynnig, er mwyn inni barhau i wella safonau yn ein system addysg.
 
“Rhaid i’n diwygiadau ym maes addysg gefnogi’r gwaith o gyflwyno ein cwricwlwm newydd. Felly, rwy’n hynod o falch bod yr Athro Donaldson wedi cytuno i gynnal yr adolygiad. Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn cynnal adolygiadau o systemau addysg ar draws y byd, gan gynnwys Awstralia, Portiwgal, Sweden a Japan.”
 
Dywedodd Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, “Mae newidiadau sylweddol yn digwydd i’r byd addysg yng Nghymru, ac mae’r gwaith arolygu yn newid hefyd. O ystyried mai cenhadaeth Estyn yw sicrhau rhagoriaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru, rydyn ni’n credu y bydd o fudd i gael barn annibynnol gan yr Athro Donaldson.
 
Rwy’n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn fy nghynnig ac yn cefnogi’r adolygiad hwn. ”
 
Dywedodd yr Athro Donaldson, “Mae gan Estyn rhan hanfodol i’w chwarae mewn perthynas â llwyddiant y rhaglen ddiwygio yng Nghymru. Felly, rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet a’r Prif Arolygydd wedi gofyn imi gynnal adolygiad annibynnol o’r modd y gall ei gyfraniad at y diwygiadau gael ei wireddu orau.”
 
Bydd yr Athro Donaldson yn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a’r Prif Arolygydd ar ôl iddo gasglu a dadansoddi tystiolaeth ar arolygiadau, gwella ansawdd ac atebolrwydd. O wneud hynny, bydd yn helpu Estyn i fireinio a datblygu eu harferion.
 
Bydd cylch gorchwyl yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi cyn bod hir ar wefan Estyn.