Ymgynghoriad – trefniadau arolygu ar gyfer addysg gychwynnol athrawon o fis Medi 2025 - Estyn

Ymgynghoriad – trefniadau arolygu ar gyfer addysg gychwynnol athrawon o fis Medi 2025

Erthygl

Ymgynghoriad – trefniadau arolygu ar gyfer addysg gychwynnol athrawon o fis Medi 2025

O fis Medi 2025, byddwn yn cyflwyno trefniadau arolygu newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon (AGA). Mae nawr yn adeg bwysig i ni fyfyrio ac adolygu er mwyn i ni allu sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf lle mae ei hangen fwyaf.

Mae’r ymgynghoriad hwn ar gyfer pawb fydd â diddordeb yn y trefniadau arolygu newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon, gan gynnwys:

• myfyrwyr sy’n astudio rhaglen AGA neu gyn- athrawon dan hyfforddiant
• arweinwyr, staff addysgu a llywodraethwyr o ysgolion
• arweinwyr a gweithwyr addysg proffesiynol mewn prifysgolion sy’n ymwneud â rhaglenni AGA
• gweithwyr addysg proffesiynol ac arweinwyr o awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol
• Cyngor y Gweithlu Addysg
• Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
• yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch
• Coleg Cymraeg Cenedlaethol
• rhanddeiliaid y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ynghyd â gweithgareddau eraill ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn llywio sut orau y gallwn ni ffurfio trefniadau arolygu newydd ac effeithiol o fis Medi 2025 ymlaen.

Mynnwch gael dweud eich dweud

Cymerwch ran yn ein harolwg ymgynghori yma: https://www.smartsurvey.co.uk/s/PCGW4D/

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 28 Mawrth am 11:59.