Erthyglau newyddion |

Ymgynghoriad ar sut mae Estyn yn arolygu

Share this page

Estyn yn ceisio barn am sut mae’n arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Mae Estyn, yr arolygaeth addysg a hyfforddiant, yn ceision barn rhieni, athrawon, plant, pobl ifanc a phawb sydd â budd mewn addysg. Mae ymgynghoriad chwe wythnos, sy'n cael ei lansio heddiw, yn ceisio barn am y ffordd y bydd ysgolion, colegau a darparwyr eraill yn cael eu harolygu o Fedi 2017 ymlaen.

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

“Mae addysg yn gwneud cyfraniad holl bwysig at wella bywyd ein plant a’n pobl ifanc.  Mae arolygiadau’n ffordd o sicrhau mai ein system addysg yw’r system addysg orau bosibl.  Rydym yn awyddus i glywed barn unigolion a sefydliadau am bob agwedd ar arolygu, gan gynnwys yr hyn rydym ni’n adrodd arno, ein barnau a sut rydym yn ystyried barn rhieni a dysgwyr.

 

“Dyma gyfle i ddylanwadu ar newidiadau i arolygiadau yng Nghymru.  Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar sut bydd Estyn yn arolygu yn y dyfodol.”

Mae holiadur yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Estyn yn www.estyn.llyw.cymru/ymgynghoriad ac mae'n cynnwys fersiwn i bobl ifanc. Byddwn yn cyfarfod â grwpiau ffocws o arbenigwyr addysgol ac rydym yn croesawu adborth ar y broses arolygu yn ychwanegol at yr holiadur, a gellir ei enfon drwy'r post neu e-bost i Estyn.

Mae'r cyfnod ymgynghori yn para tan ddydd Mercher 11 Tachwedd 2015.