Ymgynghoriad ar newidiadau i arolygiadau Estyn - Estyn

Ymgynghoriad ar newidiadau i arolygiadau Estyn

Erthygl

Ar hyn o bryd, caiff ysgolion a darparwyr eu harolygu bob chwe mlynedd. Er mai dim ond rhybudd o 20 diwrnod gwaith o arolygiad a gaiff ysgolion a darparwyr, gallant yn aml ragweld pryd y cynhelir yr arolygiad nesaf.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn argymell lleihau yr amser y bydd gan ysgol neu ddarparwr i baratoi cynllun gweithredu wedi’r arolygiad (ar hyn o bryd, gall gymryd hyd at 80 diwrnod gwaith).

Meddai Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn:

“Mae arolygiad annibynnol yn elfen hanfodol er mwyn hyrwyddo gwelliant mewn addysg a hyfforddiant.

 

“Gallwn weld eisoes effaith bositif ein proses arolygu yn y ddarpariaeth well a geir yn yr ysgolion hynny a gafodd gymorth ychwanegol drwy arolygiadau dilynol.

 

“Pan newidiwyd y broses arolygu gennym ym mis Medi 2010, roeddem am weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a darparwyr drwy gryfhau’r broses hunanarfarnu, datblygu eu medrau a’u gwybodaeth drwy arolygiadau gan gymheiriaid, defnyddio enwebeion a hyrwyddo arfer sy’n arwain y sector.

 

“Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig sydd â’r potensial i newid y ffordd yr ydyn ni’n arolygu, lleihau’r straen ar athrawon a lleihau’r demtasiwn i ysgolion baratoi’n ormodol ar gyfer arolygiad gan y byddai’n anoddach rhagweld pryd y byddai’r arolygiad yn digwydd.

 

“Dwi am annog pob rhiant, dysgwr a darparwyr addysg a hyfforddiant i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Meddai’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews:

“Dwi am weld gwelliant mewn safonau a pherfformiad yn y maes addysg yng Nghymru. Am y rheswm hwnnw, mae’n hanfodol bod proses arolygu Estyn, sydd eisoes yn un gadarn, mor drylwyr â phosib.

 

“Er mwyn i’n hysgolion a’n darparwyr lwyddo a darparu ar gyfer ein dysgwyr, mae angen iddynt fod o’r safon uchaf a chael eu hasesu’n iawn ac yn deg. Mae’r ymgynghoriad newydd hwn yn holi sut y gallwn ni ac Estyn wneud i hynny ddigwydd.”

Mae’r ymgynghoriad ar gael i’w lawrlwytho yma ac mae’n cynnwys holiaduron pwrpasol i ddysgwyr a rhieni a gweithwyr proffesiynol yn y maes addysg.

Mae Estyn wedi ymrwymo i gael barn rhanddeiliaid cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r broses arolygu. Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, bydd Estyn yn gwerthuso’r adborth i benderfynu pa newidiadau, os o gwbl, ddylid eu gwneud. Os oes angen gwneud unrhyw newidiadau yn dilyn yr ymgynghoriad, mae’n bosib y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r rheoliadau a’r ddeddfwriaeth bresennol. Mae Estyn a Llywodraeth Cymru yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar y cyd er mwyn osgoi dyblygu gwaith.

 

Nodiadau i Olygyddion:
 

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).