Ymateb i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Estyn

Ymateb i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Erthygl

Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (Lynne Neagle AS) ar y gwaith da a wneir yn ein canolfannau trochi hwyr ledled Cymru yng Nghyfarfod Llawn y Senedd yr wythnos hon.

Rydym yn llwyr gefnogi’r ffocws ar rôl bwysig canolfannau trochi mewn datblygu medrau darllen Cymraeg ac yn amlygu hyn yn ein hadroddiad thematig diweddar: Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed

Mae’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’w weld isod:

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn heddiw i amlygu a dathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn ein canolfannau trochi hwyr ledled Cymru, a’r rhan rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o ran cefnogi’r gwaith hwnnw…

Mae dros 4,000 o ddysgwyr wedi elwa ar raglenni trochi hwyr dwys er 2021. Mae arferion addysgu trochi hwyr hefyd wedi’u defnyddio i atgyfnerthu medrau Cymraeg ymhlith dysgwyr llai hyderus, yn enwedig ar ôl y pandemig.

Fe wnaeth adroddiad thematig Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddatblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed gydnabod y rôl y mae canolfannau trochi hwyr yn ei chwarae mewn datblygu medrau Cymraeg effeithiol ymhlith dysgwyr sy’n trosglwyddo o’r sector cyfrwng Saesneg. Mae’r cyllid i awdurdodau lleol hefyd wedi cynorthwyo i gadw a recriwtio dros 60 o ymarferwyr trochi hwyr, yn ogystal â galluogi defnydd creadigol o dechnoleg i gyfoethogi’r profiad dysgu. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, wedi arwain y gwaith o ddatblygu pentref rhithwir ‘Pentref Aberwla’, gan ddefnyddio technoleg realiti rhithwir, a fydd yn cael ei chyflwyno’n genedlaethol dros gyfnod.” 

Mae manylion llawn am gyfeiriad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’w gweld yma: Agenda Y Cyfarfod Llawn ar Dydd Mawrth, 8 Hydref 2024, 13.30 (senedd.cymru)

I ddarganfod mwy am ein hymagwedd at arolygu trefniadau trochi Cymraeg mewn awdurdodau lleol, cliciwch yma.

Mae ein hadroddiad arolygu diweddar ar drefniadau trochi Cymraeg yng Nghyngor Dinas Casnewydd i’w weld yma.

Am ragor o enghreifftiau o arfer da yn y sector hyn, darllenwch ein hadroddiad thematig diweddar: Addysg Drochi Cymraeg – Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed – Estyn (llyw.cymru)