Y pandemig yn cael effaith negyddol ar fedrau darllen disgyblion, ond safonau’n gwella - Estyn

Y pandemig yn cael effaith negyddol ar fedrau darllen disgyblion, ond safonau’n gwella

Erthygl

Mae adroddiad Estyn, Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10 i 14 mlwydd oed, yn amlygu bod yr ysgolion gorau yn addysgu strategaethau sy’n helpu disgyblion i ddeall yr hyn y maent yn ei ddarllen, a datblygu medrau siarad a gwrando. Ond lleiafrif yn unig o ysgolion uwchradd sy’n gweithredu’r strategaethau hyn yn gyson mewn gwersi Saesneg ac ar draws y cwricwlwm. Mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, fel ei gilydd, lleiafrif o arweinwyr yn unig sy’n monitro a gwerthuso effaith y rhain yn ddigon da.

Mae’r arolygiaeth yn argymell y dylai ysgolion ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer athrawon ar y strategaethau sy’n helpu disgyblion yn fwyaf effeithiol i ddatblygu medrau darllen.  

Dywed Owen Evans, y Prif Arolygydd,

‘Mae gwella medrau darllen disgyblion yn flaenoriaeth genedlaethol. Er i’r pandemig gael effaith negyddol, yn enwedig ar y rhai oedd dan anfantais oherwydd tlodi, rydyn ni’n gweld bod safonau darllen yn gwella eto. Ysgolion sydd wedi nodi diffygion mewn medrau penodol ac yn canolbwyntio ar lenwi’r bylchau sy’n gwneud y cynnydd gorau.

‘Mae ein canfyddiadau’n dangos bod yr athrawon gorau yn gweu gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu gyda’i gilydd yn fedrus fel bod pob medr o fudd i’r medrau eraill.

‘Rydyn ni’n argymell y dylai arweinwyr ysgolion, gyda chefnogaeth gan eu clystyrau a’u partneriaid gwella, ddarparu cyfleoedd i staff ddysgu am strategaethau addysgu wedi’u seilio ar dystiolaeth i ddatblygu medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm.’

Mae’r arolygiaeth yn amlygu rhai heriau, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd lle mae’r trefniadau gwersi mwy cymhleth a niferus yn ei gwneud yn anos datblygu medrau darllen yn gydlynus nag ydyw mewn ysgolion cynradd.

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn rhannu’r modd y mae rhai ysgolion wedi mynd i’r afael â’r her yn dda. Mae’n cynnwys Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful sy’n paratoi eu plant i fod yn ddysgwyr gydol oes, trwy ddatblygu siaradwyr hyderus a darllenwyr hyfedr. Cyflwynodd yr ysgol strategaethau yn eu sesiynau darllen a oedd yn meithrin rolau gwrando a siarad disgyblion. Mae disgyblion yn yr ysgol yn hyderus a huawdl, ac maent yn mynegi cariad at ddarllen yn yr ystafell ddosbarth, a’r tu allan.

Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer arweinwyr ysgolion, y rhai sy’n gweithio yn yr ystafell ddosbarth, partneriaid gwella ysgolion a Llywodraeth Cymru. Mae Estyn hefyd yn annog monitro a gwerthuso strategaethau mewn ysgolion yn agos, cynllunio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer cyfnod pontio disgyblion, a bod Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo a datblygu ei hymagwedd ysgol gyfan at y pecyn cymorth cenedlaethol ar lafaredd a darllen.