Trochi iaith yn parhau’n flaenoriaeth i gefnogi plant sy’n dysgu Cymraeg

Erthygl

Yn yr arfer orau a welwyd mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir, ysgolion a chanolfannau iaith, mae plant yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu croesawu a’u bod yn barod i ddysgu Cymraeg heb ofn methu.

Ond mae’r arolygiaeth wedi darganfod nad yw hwyrddyfodiaid i ddysgu Cymraeg yn cael yr un gefnogaeth i fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,

Trochi iaith mewn addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd bwysicaf un i gyflawni Cymraeg 2050 a chreu siaradwyr Cymraeg newydd.

Heddiw, rydym wedi rhannu sut gall ymarferwyr greu profiadau dysgu bywiog, anogol a chadarnhaol.

Ond mae mwy i’w wneud o hyd. Mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol eisoes yn gweithio ar eu gweledigaeth strategol ar gyfer addysg drochi Cymraeg. Heddiw, rydym yn argymell eu bod yn gwneud yn siŵr y gall pob dysgwr fanteisio’n gyfartal ar addysg drochi, ni waeth pa mor gynnar neu hwyr y byddant yn ymuno ag addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae Estyn yn amlygu arfer dda, fel yng Nghanolfan Trochi Iaith Caerdydd, sydd wedi cryfhau ei chefnogaeth i blant sy’n hwyrddyfodiaid i ddysgu Cymraeg. Mae’n defnyddio dulliau addysgu fel actio mewn cymeriad a pharu geirfa â symudiadau corfforol i helpu plant i fwynhau ac atgyfnerthu datblygu iaith.

Mae’r adroddiad heddiw, sef ‘Addysg Drochi Cymraeg: Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed’, yn edrych ar gefnogaeth i’r rhai 3 i 7 mlwydd oed mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog (trochi cynnar) ac i blant hŷn sy’n dechrau dysgu Cymraeg yn hwyrach (trochi hwyr).

Mae hefyd yn argymell y dylai lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion adeiladu ar arfer effeithiol a chynllunio gweithgareddau cyson i helpu dysgwyr i gaffael medrau iaith yn fwriadus ac yn gydlynus.