Symud tuag at ddiwylliant o hunanwella mewn addysg yng Nghymru - Estyn

Symud tuag at ddiwylliant o hunanwella mewn addysg yng Nghymru

Erthygl

Dywed y Prif Arolygydd Meilyr Rowlands, “Wrth edrych yn ôl dros y cylch saith mlynedd diwethaf o arolygiadau, bu symud tuag at fwy o gydweithio mewn addysg yng Nghymru. Mae’n amlwg o’n harolygiadau o dros 2,700 o ysgolion, lleoliadau nas cynhelir, colegau a sefydliadau addysg a hyfforddiant eraill, bod yna ddigon o ragoriaeth ledled addysg yng Nghymru i gefnogi gwelliant a helpu lleihau amrywiant. 
 
“Mae’r ysbryd hwn o gydweithredu yn fwyaf amlwg yn y ffordd y mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu gyda’r proffesiwn addysgu a sut mae ysgolion eu hunain yn dechrau datblygu arferion addysgu a dysgu arloesol.  Mae consortia o awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd ac ysgolion i gynorthwyo’i gilydd i wella medrau proffesiynol athrawon.” 
 
Mewn ysgolion fel Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd, sydd ag ymrwymiad cadarn i welliant parhaus, mae arweinwyr yn canolbwyntio ar wella addysgu a dysgu, cynorthwyo athrawon i arloesi, buddsoddi mewn datblygiad staff, a chreu’r amodau iawn i staff weithio gyda’i gilydd o fewn eu sefydliad a thu hwnt. Mae astudiaethau achos pellach yn yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi enghreifftiau o’r arfer effeithiol y mae Estyn wedi’i gweld ar hyd a lled Cymru.
 
Mwy o ganfyddiadau o’r cylch arolygu saith mlynedd:
  • Mae canfyddiadau arolygu eleni yn debyg ar y cyfan i ganfyddiadau ar gyfer y saith mlynedd diwethaf yn gyffredinol.  Mae saith o bob deg ysgol gynradd a arolygwyd eleni yn dda neu’n rhagorol, sy’n debyg i’r llynedd, tra bod hanner yr ysgolion uwchradd a arolygwyd yn dda neu’n rhagorol, sef fymryn yn well na’r llynedd
  • Mae llawer o gryfderau mewn lleoliadau meithrin, ysgolion arbennig a gynhelir ac mewn colegau addysg bellach, lle mae ansawdd yr addysg a ddarperir yn dda neu’n well yn y rhan fwyaf o achosion. Mae amrywiant o fewn a rhwng darparwyr yn parhau’n her yn y rhan fwyaf o sectorau eraill. 
  • Mae’r ysgolion sydd fwyaf llwyddiannus o ran codi safonau ar gyfer eu holl ddisgyblion ac i gau’r bwlch mewn perfformiad disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim o gymharu â’u cyfoedion, yn annog mwy o ymgysylltiad â rhieni a’r gymuned, ac yn creu diwylliant lle caiff addysg ei pharchu a’i gwerthfawrogi.
  • Yn y chwarter o ysgolion sy’n cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen yn dda, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da, yn dod yn ddysgwyr hyderus, ac wedi’u paratoi’n dda ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Ond mae llawer o ysgolion yn dal i ddibynnu ar ddulliau addysgu mwy traddodiadol, yn enwedig ar gyfer plant 5 i 7 oed.
  • Wrth i’r system atebolrwydd ysgolion uwchradd gael ei chysylltu’n gynyddol â chanlyniadau arholiadau, canolbwyntiodd rhai ysgolion yn ormodol ar dechneg arholiadau yn hytrach nag ar ddarparu addysg eang.  Mae’r ysgolion gorau yn datblygu gwybodaeth, medrau ac agweddau dysgwyr at ddysgu wrth gipio’u diddordeb drwy brofiadau dysgu difyr. 
  • Mae uno colegau addysg bellach wedi arwain at nifer lai o ddarparwyr mawr.  Mae timau arwain newydd y sefydliadau hyn wedi goruchwylio darpariaeth well yn y sector hwn dros y saith mlynedd diwethaf.