Safonau ym medrau TGCh disgyblion yn dda neu’n well mewn hanner o ysgolion cynradd

Erthygl

Heddiw, mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yn Nghymru, yn cyhoeddi ‘Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd’, sef y cyntaf o ddau adroddiad ar arolygon o safonau TGCh mewn ysgolion ac uwchradd yng Nghymru, yn archwilio effaith TGCh ar ddysgu disgyblion ar draws y cwricwlwm ysgolion cynradd.

Canfu’r arolygiaeth fod safonau mewn TGCh yn dda neu’n rhagorol mewn hanner o’r ysgolion cynradd yr ymwelwyd â nhw a bod safonau’n well ar y cyfan yn y Cyfnod Sylfaen nag yr ydynt yng nghyfnod allweddol 2.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd yr ymwelwyd â nhw, mae medrau disgyblion mewn defnyddio TGCh i gyflwyno gwybodaeth yn dda, ac mae bron pob disgybl yn defnyddio TGCh yn dda i ymchwilio i wybodaeth mewn gwahanol bynciau.

Yn y mwyafrif o ysgolion, mae TGCh wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau llythrennedd, ac mewn rhai ysgolion, mae medrau llafaredd, cyflwyno, ymchwilio ac ysgrifennu disgyblion a’u medrau cydweithredol a’u medrau meddwl, wedi gwella’n sylweddol trwy ddefnyddio gweithgareddau ffilmio fideo, animeiddio a golygu.

Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru,

“Mae medrau TGCh yn bwysicach nag erioed mewn cymdeithas heddiw. Mae plant ac athrawon yn cael eu cymell a’u cyffroi i addysgu a dysgu’r medrau hanfodol hyn.

 

“Rydym ni wedi gweld enghreifftiau rhagorol o ysgolion yn defnyddio ffyrdd arloesol o ddatblygu medrau TGCh plant. Gwyddom fod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fedrau llythrennedd a rhifedd plant – ac rydym i gyd yn gwybod bod y rhain ymhlith y prif heriau sy’n wynebu addysg yng Nghymru heddiw. Gwyddom hefyd fod TGCh yn gallu helpu i ennyn diddordeb bechgyn sy’n amharod i ddarllen ac ysgrifennu, i’w helpu i wella eu medrau darllen ac ysgrifennu.

 

“Ond er bod rhywfaint o gynnydd cadarnhaol, rydym hefyd yn gwybod bod gwaith i’w wneud. Yn aml, dydy’r dysgwyr mwy abl a dawnus ddim yn cael eu hymestyn digon, ac nid yw disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn datblygu eu medrau trin data neu fodelu yn ddigon da.

 

“Mae angen mwy o hyfforddiant ar athrawon hefyd fel eu bod yn fwy cymwys a hyderus i gyflwyno’r rhaglen TGCh i ddisgyblion o bob oedran a gallu.”

Canfu’r arolygiaeth fod TGCh wedi cael effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu ond bod ansawdd yr addysgu yn well yn y Cyfnod Sylfaen nag yng nghyfnod allweddol 2. Hefyd, nid yw ysgolion wedi defnyddio’r Fframwaith Sgiliau yn ddigon da i gynllunio ar gyfer dilyniant ym medrau TGCh disgyblion ac mae angen iddyn nhw arfarnu effaith eu cynlluniau gwaith ar ddysgu disgyblion yn fwy trylwyr.

Mae Ms Keane yn parhau,

“Mae cynllunio, monitro ac asesu effeithiol yn hanfodol ar gyfer gwneud yn siŵr bod pob disgybl yn parhau i ddatblygu eu medrau yn y maes hwn.

 

“Yn y mwyafrif o ysgolion, er gwaethaf effaith gadarnhaol ar eu llythrennedd, nid yw llawer o ddisgyblion yn gwneud digon o gynnydd mewn TGCh fel pwnc. Mae angen i athrawon asesu gwaith disgyblion yn erbyn lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd cyfnod allweddol 2.

 

“Mae angen i ysgolion cynradd ac uwchradd gydweithio hefyd i gael dealltwriaeth ar y cyd o safonau mewn TGCh.”

Mae’r arolygiaeth wedi nodi nifer o feysydd i’w gwella ac wedi amlinellu cyfres o argymhellion yn yr adroddiad ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn argymell cynllunio i gyflwyno mwy o dechnolegau cludadwy mewn ysgolion fel cyfrifiaduron llechen a ffonau cludadwy, gan helpu disgyblion sy’n fwy abl a dawnus i gyflawni eu potensial, lledaenu arfer orau a chefnogi datblygiad cymwysiadau addysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer dyfeisiau symudol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o astudiaethau achos arfer orau hefyd sy’n dangos y modd y mae TGCh yn gwella safonau mewn llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â helpu i leihau’r bwlch tlodi.

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae ar gael yn llawn yma.
  • Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys ymweliadau â phump o sefydliadau addysg bellach, a phump o ganolfannau iaith i oedolion. Cyfarfu’r arolygydd cofnodol â staff yn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr hefyd.

Astudiaethau achos arfer orau (trwy gydol yr adroddiad)

  • Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Penybont, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Sant Julian, Casnewydd
  • Ysgol Cae Top, Gwynedd
  • Ysgol Golwg y Cwm, Powys
  • Ysgol Gynradd Llanrug, Gwynedd

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at ein gwefan, sef www.estyn.gov.uk