Safonau addysg grefyddol mewn ysgolion uwchradd yn gwella

Erthygl

Darganfu adroddiad Estyn ar Addysg grefyddol mewn ysgolion uwchradd fod y cyrsiau llawn a byr (hanner TGAU) wedi dod yn fwyfwy poblogaidd. Yn y ddau gwrs, roedd cyfran y disgyblion a oedd yn ennill gradd A* yng Nghymru yn uwch nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae archwilio credoau crefyddol, trafod materion moesegol, fel ‘A oes bywyd ar ôl marwolaeth?’, a gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol yn werthfawr i ddatblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc. O gymharu â gweddill y DU, mae Cymru’n cyflawni’n dda ar lefel TGAU.

 

“Fodd bynnag, mae mwy o waith i’w wneud o hyd i bontio’r bwlch sylweddol rhwng cyrhaeddiad bechgyn a merched mewn addysg grefyddol, sy’n ehangach yng Nghymru nag yn y DU yn gyfan gwbl. Mae hyn yn adlewyrchu bwlch tebyg mewn safonau llythrennedd ac mae angen i ysgolion ddatblygu strategaethau i wella cyrhaeddiad bechgyn mewn astudiaethau crefyddol.”

Roedd addysgu yn dda neu’n well mewn ychydig dros ddwy o bob tair gwers a arsylwyd yn arolwg Estyn. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod addysgu mewn addysg grefyddol yn well na’r cyfartaledd ar gyfer addysgu ar draws yr holl bynciau mewn ysgolion uwchradd a arolygwyd er 2010. Er gwaethaf y ffaith bod llawer o ysgolion uwchradd yn defnyddio athrawon anarbenigol, canfu arolygwyr nad oedd hyn fel arfer yn cael effaith negyddol ar safonau.

Ym mwyafrif yr ysgolion a gafodd ymweliad fel rhan o arolwg Estyn, roedd safonau’n dda yng nghyfnod allweddol 3. Fodd bynnag, ni welodd arolygwyr unrhyw safonau rhagorol ac roeddent yn anfoddhaol mewn ychydig ysgolion. Disgyblion mwy galluog a dawnus yw’r grŵp sy’n fwyaf tebygol o dangyflawni, fel arfer gan nad yw’r gwaith a osodir iddynt yn ddigon heriol.

Nid yw’n hawdd bob amser i athrawon rannu arfer dda a hunanarfarnu’n effeithiol mewn addysg grefyddol. Mae diffyg data cenedlaethol ar berfformiad disgyblion yn ei gwneud hi’n anodd i ysgolion gymharu safonau ag ysgolion eraill. Serch hynny, dim ond lleiafrif o ysgolion sy’n dadansoddi eu data arholi mewnol eu hunain. Hefyd, mae diffyg cyfleoedd i athrawon gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol a rhwydweithiau dysgu. Ni chaiff arfer dda ei rhannu’n ddigon da ac mae angen mwy o strategaethau arnom i wella cyrhaeddiad bechgyn, mwy o gywirdeb wrth asesu lefelau perfformiad yng nghyfnod allweddol 3 a chynllunio pwrpasol ar gyfer datblygu medrau.

Canfu arolygwyr fod bron yr holl ddisgyblion yn dangos parch tuag at farn a chredoau pobl eraill. Maent hefyd yn mwynhau dysgu am pam mae pobl yn byw mewn ffyrdd gwahanol o ganlyniad i’w credoau ac maent yn barod i siarad am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chrefydd a moeseg. Mewn un ysgol uwchradd, rhoddwyd gwahanol dasgau i grwpiau o ddisgyblion wrth ddysgu am ddioddefaint yn y Beibl. Roedd gan bob disgybl gyfrifoldeb am ei ddysgu ac arweiniodd y wers at waith ysgrifenedig o safon uchel iawn a wnaeth arddangos dealltwriaeth ragorol a’r gallu i fynegi a chyfiawnhau safbwyntiau.

Mae adroddiad Estyn yn argymell y dylai ysgolion fynd i’r afael â diffygion mewn addysg grefyddol, gan gynnwys datblygu strategaethau i wella cyrhaeddiad bechgyn yng nghyfnod allweddol 4, gwella cywirdeb asesiadau gan athrawon o lefelau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 a sicrhau bod tasgau’n ddigon heriol i ddisgyblion mwy abl. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data cyrhaeddiad ar gyfer addysg grefyddol a gweithio gydag awdurdodau lleol i wella cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Addysg grefyddol mewn ysgolion uwchradd’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yma.
  • Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob ysgol uwchradd ddarparu addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4. Y ddau brif gymhwyster addysg grefyddol y mae ysgolion yn cyflwyno disgyblion ar eu cyfer yw’r cwrs TGAU llawn a’r cwrs TGAU byr (sy’n werth hanner TGAU).
  • Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys: ymweliadau ag 20 ysgol uwchradd; cyfweliadau ag uwch arweinwyr, cydlynwyr addysg grefyddol a disgyblion; arsylwi ar wersi yng nghyfnodau allweddol 3 a 4; craffu ar gynlluniau gwaith, hunanarfarniadau adrannau, cynlluniau adrannau a llyfrau disgyblion; a dadansoddi data perthnasol ar gyfer Cymru a’r DU.

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk