Nid yw mynd i’r afael â thlodi yn flaenoriaeth digon uchel i ysgolion o hyd - Estyn

Nid yw mynd i’r afael â thlodi yn flaenoriaeth digon uchel i ysgolion o hyd

Erthygl

Adroddiad Estyn, Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol yw’r trydydd mewn cyfres sy’n bwrw golwg ar dlodi plant. Mae’n edrych ar y gwaith mewn partneriaeth rhwng ysgolion, awdurdodau lleol ac asiantaethau allanol i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac mae’n cynnwys astudiaethau achos ar arfer orau.

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae’r cyswllt rhwng difreintedd a thangyflawni addysgol mor gadarn ag y bu erioed. Gwyddom nad yw dysgwyr difreintiedig yn cyflawni cystal â’u cymheiriaid er bod y bwlch rhwng perfformiad dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt wedi culhau ychydig.

 

“Rwy’n annog pob pennaeth ac uwch arweinydd i ystyried pa mor dda y mae eu hysgol yn deall anghenion dysgwyr difreintiedig ac i arfarnu pa mor dda y maent yn gweithio gydag asiantaethau allanol fel yr eir i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad yn fwy effeithiol.”

Mae ysgolion sydd wedi llwyddo i wella perfformiad dysgwyr difreintiedig yn canolbwyntio ar anghenion disgyblion unigol. Mae’r ysgolion hyn yn dewis aelod pwrpasol o staff i gydlynu gwaith gyda gwasanaethau allanol, sy’n eu helpu i ddeall a monitro’r holl gymorth y mae disgyblion yn ei gael.

Mae darparwyr sydd wedi cynnwys teuluoedd ym mywyd yr ysgol wedi sylwi ar welliannau yn hyder disgyblion, yn eu hagwedd at ddysgu ac yn eu cyfraddau presenoldeb. Er enghraifft, cyflwynodd Ysgol Gynradd Pillgwenlly, Casnewydd, ystafell annog y teulu, a wnaeth alluogi plant i weithio ochr yn ochr â’u rhieni. Mae’r ysgol wedi sylwi ar gynnydd mewn cyfraddau presenoldeb o ganlyniad.

Hefyd, darganfu’r adroddiad nad yw awdurdodau lleol bob amser yn rhannu gwybodaeth am ddysgwyr difreintiedig gydag asiantaethau eraill. Yn ogystal, nid oes digon o gyfleoedd hyfforddi i arweinwyr ysgol ddysgu am fynd i’r afael ag effaith tlodi.

Caiff nifer o argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia eu hamlygu yn yr adroddiad llawn, gan gynnwys argymhelliad y dylai ysgolion weithio’n agosach gydag ysgolion partner i ddatblygu dull cyffredin a gweithio gydag asiantaethau eraill i gynnwys teuluoedd difreintiedig yn fwy ym mywyd yr ysgol.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yma.
  • Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth o:
    • ymweliadau â sampl gynrychioliadol o 26 ysgol, craffu ar ddata ac adroddiadau arolygiadau ysgolion a gwasanaethau addysg awdurdodau lleol.
    • ymweliadau â chwe awdurdod lleol â lefelau difreintedd uchel.
  • Astudiaethau achos:

    • Ysgol Gynradd Pillgwenlly, Casnewydd
    • Ysgol Gynradd Treorci, Rhondda Cynon Taf
    • Ysgol Gynradd Alexandra, Wrecsam
    • Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot

Dolenni

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth mewn dysgu i bawb yng Nghymru. Gwnawn hyn drwy gynnig gwasanaeth cyngor ac arolygu annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru drwy arbenigedd ein staff.

Cawn ein hariannu gan, ond rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

For further information please visit our website www.estyn.gov.uk