Nid yw achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed yn cael eu cofnodi’n ddigonol ac mae angen mwy o gymorth ar staff colegau, yn ôl adroddiad diweddaraf Estyn
Canfu’r astudiaeth nad yw systemau i gofnodi a dadansoddi aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr yn fanwl wedi’u datblygu’n ddigonol mewn colegau. Yn rhy aml, cofnodwyd digwyddiadau fel bwlio cyffredinol. Nid oedd staff yn hyderus o ran mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac roeddent yn teimlo bod angen mwy o ddatblygiad proffesiynol arnynt i ddeall a mynd i’r afael â’r broblem.
Roedd yr adroddiad yn dangos bod colegau wedi mynd i’r afael yn effeithiol â’r achosion mwyaf difrifol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion y rhoddwyd gwybod amdanynt, gyda pholisïau a phrosesu disgyblu sefydledig i ddysgwyr ar gyfer y cyflawnwyr. Fodd bynnag, gan nad yw rhai dysgwyr yn teimlo eu bod yn gallu rhoi gwybod i staff colegau am achosion, mae dealltwriaeth colegau o faint y broblem yn gyfyngedig.
Dywed Owen Evans, Prif Arolygydd,
Mae pob dysgwr yn haeddu teimlo’n ddiogel. Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn amlygu bod angen gwneud llawer mwy i helpu diogelu a chefnogi dysgwyr rhwng 16 a 18 oed mewn colegau yng Nghymru.
Er bod y materion yn gymhleth, mae camau y gall colegau eu cymryd i ddatblygu diwylliant diogelu cryfach sy’n hyrwyddo parch a phwysigrwydd cydberthnasoedd cadarnhaol. Mae ein canfyddiadau’n dangos y gall arweinyddiaeth gref ac ymagweddau rhagweithiol gan golegau ledled Cymru annog a grymuso dysgwyr i herio ymddygiad digroeso o natur rywiol a rhoi gwybod am bob math o aflonyddu a cham-drin rhywiol.
Mae hyder staff yn hollbwysig i fynd i’r afael â hyn ac mae angen i golegau fod ag ymagweddau cyson tuag at ddysgu proffesiynol ar gydberthnasoedd iach, aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod.
Mae trafodaethau gyda dysgwyr a staff yn awgrymu efallai bod dysgwyr benywaidd, dysgwyr LHDTC+ a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o gael profiad o aflonyddu rhywiol. Esboniodd dysgwyr benywaidd nad ydynt yn rhoi gwybod am fwy o achosion oherwydd eu bod yn ofni na fyddai staff yn teimlo’n gyfforddus yn mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac y gallai ymddygiad cyflawnwyr gael ei drin yn wamal neu ei esgusodi.
Mae’r adroddiad yn amlygu enghreifftiau lle mae sesiynau hyfforddiant ar fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol wedi helpu staff colegau i nodi achosion a mynd i’r afael â nhw’n briodol. Yn ddiweddar, mae lleiafrif o golegau wedi cryfhau eu gweithgareddau codi ymwybyddiaeth hefyd ac mae ychydig ohonynt wedi dechrau sefydlu diwylliant “dim esgus” i fynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i fesur effaith y datblygiadau hyn.
Er y canfuwyd bod staff arbenigol a staff bugeiliol wedi’u harfogi’n dda i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol, canfu’r adroddiad fod staff ehangach colegau y tu allan i’r rolau hyn yn brin o hyder. Roedd bron i hanner (47%) yr ymatebwyr yn teimlo ‘nid oes digon’ o hyfforddiant i staff ar sut i ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol rhwng dysgwyr coleg.
Mae pa mor hawdd ydyw i fynd at ddulliau cyfathrebu digidol a chyfryngau cymdeithasol yn achosi anawsterau i staff a dysgwyr o ran nodi a rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol. Er bod ymddygiad wyneb-yn-wyneb digroeso yn her o hyd, mae gweithgarwch digidol fel “gollwng” delweddau rhywiol cignoeth digroeso i bobl eraill wedi dod yn beth cyffredin.
Dywed Ian Dickson AEF, awdur yr adroddiad,
Trwy gynnal gweithdai gyda dysgwyr, siarad ag arweinwyr, athrawon a staff cymorth mewn colegau, ac edrych ar ystod eang o ddogfennau sy’n ymwneud â phrosesau presennol, mae ein harolygwyr yn rhoi darlun cliriach o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn addysg bellach yng Nghymru. Nid oedd y sgyrsiau’n rhai hawdd, felly hoffwn ddiolch i staff a dysgwyr colegau am eu cymorth a’u cydweithrediad yn ystod cyfnod prysur a heriol i’r sector.