Nid oes digon o ysgolion cynradd yn defnyddio arweiniad a all eu helpu i reoli effaith absenoldeb athrawon yn well

Erthygl

Mae adroddiad Estyn, ‘Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol mewn ysgolion cynradd’  yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo eu dogfen arweiniad yn ehangach fel y gall mwy o ysgolion cynradd roi ei gwybodaeth ddefnyddiol ar waith.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:
“Mae angen i ysgolion cynradd wneud yn siŵr eu bod yn arfarnu effaith absenoldeb athrawon.   Gall monitro ac olrhain y rhesymau dros absenoldeb athrawon helpu i godi ymwybyddiaeth am effaith bosibl absenoldeb ar ddysgwyr.  Dylen nhw hefyd fonitro gwaith athrawon cyflenwi yn rheolaidd i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd priodol.”

Canfu arolygwyr yn y mwyafrif o ysgolion fod athrawon cyflenwi yn defnyddio dogfennau’r ysgol i gynllunio gwersi, ond pan na fydd y wybodaeth gynllunio hon ar gael, mae athrawon cyflenwi yn canolbwyntio ar gadw plant yn brysur, yn hytrach na chynllunio gwersi sy’n adeiladu ar wybodaeth a medrau disgyblion.  

Yn ychwanegol, canfu’r adroddiad fod bron pob ysgol gynradd yn monitro absenoldeb athrawon yn effeithiol pan fyddant yn absennol o’r ystafell ddosbarth oherwydd salwch, ond nid am resymau eraill fel hyfforddiant, cynadleddau, neu ddyletswyddau ysgol eraill.  Mae hyn yn golygu mai ychydig iawn o ysgolion sy’n gallu dweud pa mor aml y caiff disgyblion eu haddysgu gan rywun heblaw eu hathro dosbarth.  Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arweiniad ar fonitro effaith athrawon sy’n absennol o’r ystafell ddosbarth am resymau heblaw salwch.

Mae Estyn yn argymell hefyd y dylai Llywodraeth Cymru lunio arweiniad ar reoli absenoldeb penaethiaid yn effeithiol a dylent hefyd sicrhau yr eir i’r afael â darpariaeth staff cyflenwi yn y sector cyfrwng Cymraeg.  Dylai awdurdodau lleol drefnu bod hyfforddiant ar reoli presenoldeb y gweithlu ar gael  ar gyfer pob pennaeth a dylent hefyd roi data meincnodi i ysgolion er mwyn iddynt allu cymharu eu cyfraddau presenoldeb yn erbyn rhai eraill.  Dylai ysgolion roi adborth i athrawon cyflenwi ar eu perfformiad hefyd, a sicrhau eu bod nhw bob amser yn gallu defnyddio dogfennau cynllunio gwersi fel bod disgyblion yn gallu gwneud cynnydd yn eu dysgu.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad
• Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol mewn ysgolion cynradd’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig
• Mae canfyddiadau’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o arolygiadau ac o 60 o ymatebion i holiaduron a anfonwyd at sampl gynrychioliadol o benaethiaid ysgol gynradd, cyrff llywodraethol a chynrychiolwyr awdurdodau lleol.  Bu arolygwyr yn cyfweld â sampl o benaethiaid, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, a chynrychiolwyr o ddwy asiantaeth gyflenwi.