Medrau rhifedd disgyblion yn parhau'n wan mewn tua hanner ysgolion - Estyn

Medrau rhifedd disgyblion yn parhau’n wan mewn tua hanner ysgolion

Erthygl

‘Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: adroddiad interim’ yw’r ail o dri adroddiad sy’n bwrw golwg ar sut mae sampl o ysgolion cynradd ac uwchradd yn datblygu medrau rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn gyffredinol, mae’r ysgolion hyn wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ers blwyddyn gyntaf yr astudiaeth. Fodd bynnag, nid yw llawer o’u strategaethau yn cael effaith gyson ar safonau eto.

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae’n dda gweld y cynnydd a wnaed gan oddeutu hanner yr ysgolion a arolygom. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio bod llawer o waith i’w wneud o hyd cyn bod ysgolion yn cael effaith lawn a chyson ar wella safonau medrau rhifedd disgyblion. Mae gormod o ddisgyblion o hyd sydd â diffyg hyder mewn agweddau allweddol ar fathemateg, fel rhannu a gweithio gyda chanrannau. At ei gilydd, nid yw medrau rhesymu rhifiadol disgyblion yn ddigon cadarn a gwelwn hyn yn rhy aml mewn arolygiadau ysgolion a gwaith thematig.

 

“Mae angen mwy o gymorth ar staff i ymestyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o strategaethau i helpu disgyblion i ddefnyddio rhifedd ar draws y cwricwlwm.

 

“Mae ar athrawon angen dealltwriaeth well o gryfderau a gwendidau disgyblion fel y gallant gynllunio i ddarparu ar gyfer pob gallu, gan gynnwys disgyblion mwy galluog. Yn ogystal, mae angen i ddysgwyr ganolbwyntio’n fwy ar safonau gwaith disgyblion mewn gwersi a llyfrau pan fyddant yn monitro ac yn arfarnu ansawdd rhifedd, yn hytrach na dibynnu ar arsylwi gwersi yn unig.”

Amlygir astudiaethau achos arfer orau yn yr adroddiad hefyd. Mae Ysgol Gynradd Llidiart ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu adnodd defnyddiol i ddatblygu medrau rhifedd ar draws yr ysgol ac mae athrawon wedi’i ddefnyddio mewn gweithgareddau rhifedd sydd â ffocws manylach. Mae dwy astudiaeth achos arall o arfer orau yn cynnig enghreifftiau o rywfaint o’r addysgu gorau a welwyd yn yr ysgolion yn yr arolwg.

Mae argymhellion yn cynnig ffyrdd i ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru wella medrau rhifedd disgyblion. Maent yn cynnwys sicrhau bod disgyblion yn meistroli medrau rhif pwysig, yn datblygu medrau rhesymu rhifiadol mewn gwersi mathemateg a phynciau eraill ac yn gwella asesu ac olrhain. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol ymhen dwy flynedd, fel y gellir dal darlun llawnach o effaith y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Rhaglen Gymorth Genedlaethol.

Nodiadau i Olygyddion

Ynghylch yr adroddiad

Cyhoeddir yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014 ac mae ar gael yn llawn yma.

Fe wnaeth sampl gynrychioliadol o 12 ysgol gynradd a 12 ysgol uwchradd gymryd rhan yn yr astudiaeth. Roedd y cyfan ond un o’r rhain yn rhan o astudiaeth gwaelodlin 2013, sydd i’w gweld yma.

Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion hefyd yn defnyddio:

  • Canfyddiadau arolygiadau o 2012-2014;
  • Deilliannau PISA 2012;
  • Deilliannau Profion Rhifedd Cenedlaethol 2013 a 2014;
  • Data diwedd cyfnod allweddol 2010-2014
  • Safbwyntiau consortia rhanbarthol
  • Cyhoeddiadau perthynol.

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Gynradd Llidiart, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Mountain Lane, Sir y Fflint
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Bro Morgannwg

Ysgolion yn yr astudiaeth:

  • Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Llidiart, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd
  • Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd , Caerdydd
  • Ysgol Gynradd Stebonheath, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Bryngwyn, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Morfa Rhianedd, Conwy
  • Ysgol y Creuddyn, Conwy
  • Ysgol Uwchradd Prestatyn, Sir Ddinbych
  • Ysgol Melyd, Sir Ddinbych
  • Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Mountain Lane, Sir y Fflint
  • Ysgol Bassaleg, Casnewydd
  • Ysgol Gynradd Marshfield, Casnewydd
  • Ysgol Gynradd Traethmelyn, Port Talbot
  • Ysgol Gyfun Sandfields, Port Talbot
  • Ysgol Gynradd Brynnau, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gyfun y Pant, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gynradd Brynmill, Abertawe
  • Ysgol Olchfa, Abertawe
  • Ysgol Iau Gatholig Rufeinig San Helen, Bro Morgannwg
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Bro Morgannwg
  • Ysgol y Grango, Wrecsam
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Penycae, Wrecsam

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth mewn dysgu i bawb yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan, sef www.estyn.gov.uk