Medrau Cymraeg da disgyblion yn cefnogi’r uchelgais am genedl ddwyieithog - Estyn

Medrau Cymraeg da disgyblion yn cefnogi’r uchelgais am genedl ddwyieithog

Erthygl

Cyhoeddwyd adroddiad heddiw, ‘Cymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog’, er mwyn helpu cefnogi datblygiad cwricwlwm newydd i Gymru a’r flaenoriaeth genedlaethol, sef cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a’r nifer sy’n defnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd. 

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

“Mae gwella dysgu ac addysgu’r Gymraeg i bob dysgwr yn ganolog i ddatblygu Cymru fel cenedl ddwyieithog.  Mae gan y rhan fwyaf o’r penaethiaid yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog weledigaeth glir i bob disgybl wneud y cynnydd gorau posibl wrth ddatblygu’u medrau Cymraeg a meithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth Gymreig.

“Rydym wedi gweld enghreifftiau lle mae cyrsiau trochi wedi cael effaith go iawn ar ddatblygu medrau gwrando a siarad, a chodi safonau.  Mae’r astudiaethau achos arfer dda yn yr adroddiad hwn yn amlygu strategaethau y gall ysgolion ac awdurdodau eraill eu modelu.”

Yn awdurdod lleol Gwynedd, darganfu arolygwyr fod 5 canolfan iaith y sir yn cynnig sylfaen gadarn i ddisgyblion sydd heb unrhyw gymhwysedd neu fawr ddim cymhwysedd blaenorol yn yr iaith, ddysgu’n ddwyieithog.  Mae staff yn y canolfannau hyn yn defnyddio dulliau hynod effeithiol i addysgu iaith, gan bwysleisio pwysigrwydd medrau gwrando a siarad.  Yn yr un modd, yn Ysgol Glan Clwyd, mae rhai disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn dewis symud o addysg cyfrwng Saesneg ac yn dysgu bron pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg mewn dosbarth trochi ym Mlynyddoedd 7 ac 8.

Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau llefaredd disgyblion er mwyn helpu i ddatblygu medrau eraill, yn enwedig ysgrifennu.  Mae argymhellion eraill yn amlygu ffyrdd y gall awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol gefnogi datblygiad y Gymraeg yn well.  Yn ogystal, mae’r adroddiad yn cynnwys cwestiynau i ysgolion eu hystyried fel rhan o’u hunanarfarnu, gan gynnwys cwestiynau am gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’u medrau Cymraeg y tu allan i wersi Cymraeg ac ethos yr ysgol o ran hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.