Mae’r rhan fwyaf o hyfforddeion Teach First yn llawn cymhelliant, ond mae rhai diffygion pwysig yn parhau
Yn 2013, rhoddodd Llywodraeth Cymru gontract tair blynedd i Teach First, sef elusen a sefydlwyd i hyfforddi graddedigion i fod yn athrawon mewn ysgolion mewn cymunedau incwm isel i beilota rhaglen hyfforddi i raddedigion yng Nghymru. Mae adroddiad Estyn ‘Effaith y Rhaglen Hyfforddiant Ychwanegol i Raddedigion (Teach First) yng Nghymru’ yn arfarnu llwyddiant y rhaglen beilot.
Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:
“Mae sicrhau bod athrawon Cymru yn y dyfodol yn meddu ar y medrau i addysgu, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli ein pobl ifanc i lwyddo yn hanfodol i wella ein system addysg, felly mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar gryfderau rhaglen Teach First a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac yn mynd i’r afael â’r gwendidau.”
Mae rhaglen Teach First wedi bod o fudd i hyfforddeion ac ysgolion fel ei gilydd ar y cyfan. Mae’r rhan fwyaf o hyfforddeion yn llawn cymhelliant, yn dangos gwybodaeth bynciol dda ac yn cynllunio gwersi’n drylwyr. Mae llawer ohonynt yn defnyddio strategaethau addysgu arloesol. Yn ychwanegol, canfu’r rhan fwyaf o ysgolion fod hyfforddeion yn dod â syniadau newydd i’w gweithle, ac mewn rhai achosion, maent wedi herio arfer sefydledig. Fodd bynnag, nid yw tua hanner y staff ysgol sy’n mentora hyfforddeion yn rhoi digon o adborth a her. Yn ychwanegol, mae gormod o amrywioldeb ym mhrofiadau’r cyfranogwyr, yn enwedig yn ystod wythnosau cyntaf pwysig yr hyfforddiant.
Yn ogystal â sicrhau bod darparwyr hyfforddiant i athrawon yn helpu hyfforddeion i ddatblygu’r ffordd fwyaf effeithiol o addysgu eu pwnc, mae Estyn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut i wella ansawdd mentora hyfforddeion mewn ysgolion, gan gynnwys beth yw’r ffordd orau o’u cefnogi’n effeithiol yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn addysgu, a gwella casglu data ar effeithiolrwydd y rhaglenni hyfforddi.