Erthyglau newyddion |

Mae’r cymorth mewn ysgolion ar gyfer disgyblion sy’n cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gwella

Share this page

Erbyn hyn, mae gan lawer o arweinwyr ysgolion cynradd ac uwchradd, a’u staff, ddealltwriaeth well o effaith profiadau trawmatig neu brofiadau sy’n peri straen y mae rhai plant yn mynd drwyddynt, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn. Gall dioddef cam-drin neu fyw gyda rhieni â materion iechyd meddwl, trais domestig, cam-drin cyffuriau neu alcohol neu rieni’n gwahanu gael effaith negyddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant, eu hymgysylltiad cymdeithasol a’u presenoldeb yn yr ysgol.

Mae hyfforddiant gan hwb cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi helpu’n rhannol i gynyddu ymwybyddiaeth ysgolion o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a’r modd y gallant gynnwys yr holl staff i gefnogi plant sy’n agored i niwed.

Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol, Mae ysgolion yn chwarae rhan bwysig mewn helpu plant adeiladu’u cadernid a gallu i oresgyn caledi difrifol y gallant fod yn ei ddioddef.  Mae ysgolion sy’n darparu’r cymorth gorau yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn deall eu nodweddion bregus. Maent yn darparu amgylchedd anogol lle gall yr holl ddisgyblion deimlo’n ddiogel a hapus.  

Canfu Iechyd Cyhoeddus Cymru fod un o bob saith oedolyn yng Nghymru wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod pan oeddent yn ifanc, ond gydag ymyrraeth gynnar, gellir lleihau effaith profiadau trawmatig.

Mae staff yn yr ysgolion mwyaf cefnogol, fel Ysgol Gynradd Gymunedol Rhosymedre, yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill a sefydliadau allanol i gefnogi disgyblion sy’n agored i niwed a theuluoedd.  Mae’r ysgol yn gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau plant, nyrs yr ysgol, gwasanaethau iechyd ac asiantaethau fel Gweithredu dros Blant. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynorthwyo’r ysgol i ddiwallu anghenion eu plant sy’n agored i niwed a’u teuluoedd.

Mae ysgolion cynradd yn fwy tebygol o fod wedi cynnwys eu holl staff yn y gwaith hwn. Mae Estyn yn argymell bod pob ysgol uwchradd yn mabwysiadu dull gweithredu tebyg ac yn hyfforddi ac yn annog eu holl staff i ddeall a chefnogi disgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, nid y rhai sy’n ymwneud â gwaith bugeiliol yn unig. Mae’n argymell hefyd y dylai awdurdodau lleol rannu gwybodaeth berthnasol am ddisgyblion sy’n agored i niwed a’u teuluoedd yn fwy prydlon gydag ysgolion.