Mae’n rhaid i’r cwricwlwm newydd fod ar frig agenda ysgolion, meddai’r Prif Arolygydd - Estyn

Mae’n rhaid i’r cwricwlwm newydd fod ar frig agenda ysgolion, meddai’r Prif Arolygydd

Erthygl

Yn ei Adroddiad Blynyddol a gyhoeddwyd heddiw, mae Meilyr Rowlands yn myfyrio ar ddatblygiadau allweddol mewn addysg dros y tair blynedd diwethaf, ac mae’n cymeradwyo’r cynnydd wrth ddiwygio addysg:

Rydym ynghanol newid sylweddol, hanesyddol mewn addysg yng Nghymru.  Mae’r momentwm wedi cynyddu’n ddiweddar, gan ddod â chydweithredu gwell rhwng sefydliadau addysg cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

 

Gan fod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi’i gyhoeddi erbyn hyn, mae’n rhaid i bob ysgol feddwl o ddifrif am yr hyn y mae’r cwricwlwm newydd hwn yn ei olygu i’w cymuned ysgol, a sut gallan nhw wella addysgu a dysgu.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley ym Merthyr lle maent eisoes wedi rhoi cynnig ar rai ymagweddau diddorol at y cwricwlwm.  Mae rhaglen gyfoethogi arloesol yn helpu’u disgyblion i adeiladu medrau bywyd cryfach, ac mae wedi agor cyfleoedd newydd iddyn nhw ddysgu mewn ffyrdd gwahanol.  Mae astudiaethau achos ar hyd yr adroddiad yn rhannu arfer effeithiol er mwyn helpu ysgolion i wella.

Mae’r Prif Arolygydd yn parhau,

Mae nifer o heriau hirsefydlog yn parhau.  Mae gormod o ysgolion uwchradd yn dal i beri pryder, ac nid yw’r ‘bwlch tlodi’ rhwng dysgwyr sydd dan anfantais a’u cyfoedion wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Ni all ysgolion wneud hyn i gyd ar eu pennau’u hunain.  Mae’n rhaid i weddill y system weithio gyda’i gilydd a chefnogi ein gweithlu addysg wrth drawsnewid addysg yng Nghymru.  Dyna pam y mae Estyn yn cael seibiant o arolygiadau o fis Medi i ymweld ag ysgolion ac adeiladu darlun cenedlaethol o’r hyn sy’n gweithio’n dda wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm a nodi unrhyw heriau.

Mwy o ganfyddiadau o Adroddiad Blynyddol 2018-19:

  • Mae safonau’n dda neu’n well mewn rhyw wyth o bob deg o leoliadau nas cynhelir.  Yn y lleoliadau hyn, mae ein dysgwyr ieuengaf yn gwneud cynnydd cryf, gan ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, medrau corfforol a medrau personol a chymdeithasol yn effeithiol.
  • Mae safonau’n dda neu’n well mewn rhyw wyth o bob deg o ysgolion cynradd ac mae’r gyfran â safonau rhagorol wedi parhau i gynyddu, gydag un o bob deg yn derbyn y farn uchaf.
  • Mae safonau’n dda neu’n well ym mron hanner yr ysgolion uwchradd a arolygwyd yn 2018-19, ac mae’r gyfran o’r ysgolion hyn sy’n peri pryder yn parhau yn her.
  • Bu gwelliannau yn yr ysgolion arbennig annibynnol a’r unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd gennym, gydag enghreifftiau o ragoriaeth am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer.  Mae Estyn hefyd wedi nodi mwy o arfer effeithiol mewn ysgolion pob oed.
  • Gallai’r diwygiadau yn y sector ôl-16 wneud profiadau pobl ifanc mewn cyfnodau gwahanol o’u haddysg yn fwy di-dor. Fodd bynnag, mae gormod o’r rhai sy’n gadael yr ysgol ar hyn o bryd nad ydyn nhw’n symud ymlaen at y cyfleoedd dysgu sy’n cysylltu orau â’u huchelgeisiau, eu diddordebau a’u galluoedd.