Mae ysgolion yn paratoi’n dda ar gyfer newidiadau i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol - Estyn

Mae ysgolion yn paratoi’n dda ar gyfer newidiadau i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Erthygl

Adroddiad Estyn, ‘Parodrwydd ar gyfer diwygio ADY’, yw’r cyntaf mewn cyfres i helpu ffurfio a chefnogi’r broses ddiwygio. Mae’n archwilio’r graddau y mae ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol yn paratoi i fodloni gofynion trefniadau newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn cael ei roi ar waith o fis Medi 2020.

Dywed Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd,

Mae adroddiad heddiw’n dangos bod llawer o ysgolion eisoes yn croesawu newid sy’n rhoi anghenion unigol dysgwyr yn gadarn wrth wraidd eu haddysg.  Mae cynnwys disgyblion yn fwy yn eu dysgu, a gosod targedau, yn gallu eu grymuso a gwella lles ac agweddau at ddysgu.   

Mae’n bwysig fod awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion yn parhau i gael yr arweiniad a’r deunyddiau hyfforddi diweddaraf i gadw’r momentwm a sicrhau bod arfer wedi’i sefydlu’n gyson ledled Cymru.

Nododd arolygwyr nodweddion cadarnhaol ysgolion ac UCDau sydd mewn sefyllfa dda i ddiwygio.  Mae gan y darparwyr hyn rolau arwain clir sy’n canolbwyntio’n glir ar ddatblygu ethos a diwylliant lle caiff amrywiaeth ei chydnabod, ei derbyn a’i dathlu.  Mae ganddynt ddyheadau uchel, maent yn buddsoddi mewn staff ac mae ganddynt brosesau gwella cryf.  Mae’r ysgolion mwyaf effeithiol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a chymorth i rieni hefyd.

Hefyd, mae’r adroddiad yn amlygu ychydig o feysydd i’w gwella sy’n gyffredin i fwyafrif yr ysgolion ledled Cymru.  Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i weithio mewn ffordd fwy cysylltiedig gyda staff, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill mewn ffordd gyson a threfnus.  Yn Ysgol Uwchradd Darland, mae staff yn gweithio’n agos gyda phartneriaid allanol i fodloni anghenion cymhleth disgyblion, gan sicrhau bod yr unigolyn yn ganolog i’w harfer.  Mae astudiaethau achos pellach yn yr adroddiad yn amlinellu arfer dda mewn ysgolion arbennig a chynradd.