Mae ysgolion sy’n gweithio’n agosach gyda chyflogwyr yn paratoi disgyblion yn well ar gyfer gwaith - Estyn

Mae ysgolion sy’n gweithio’n agosach gyda chyflogwyr yn paratoi disgyblion yn well ar gyfer gwaith

Erthygl

Mewn ysgolion sy’n gweithio’n agos â chyflogwyr, ceir arweinwyr a staff ymroddgar, maent yn gwybod beth yw dyheadau gyrfa eu disgyblion, ac yn cynnig profiadau yn gysylltiedig â gwaith.

Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol,

Mae cysylltiadau â chyflogwyr yn gallu rhoi cyfle i ddisgyblion elwa ar brofiadau go iawn yn gysylltiedig â gwaith.  Er bod llawer o ysgolion yn cynnal ffair yrfaoedd flynyddol, yn trefnu ymweliadau â gweithleoedd ac yn croesawu pobl i’r ysgol i siarad am yrfaoedd, lleiafrif ohonyn nhw yn unig sydd bellach yn cynnig profiad gwaith.

Mae angen i ysgolion ystyried yn ofalus sut maen nhw’n ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith pan fyddan nhw’n cynllunio eu cwricwlwm newydd fel bod disgyblion yn cael amrywiaeth eang o brofiadau go iawn mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Mae’r adroddiad yn sôn am Ysgol Gyfun Glynrhedyn yn Rhondda Cynon Taf lle mae staff wedi gweithio’n galed i oresgyn y diffyg cyfleoedd o ran cyflogaeth leol trwy sefydlu menter gymunedol.  Mae’n darparu ‘sesiynau rhagflas’ gwaith, profiad gwaith a phrentisiaethau Blwyddyn 11 i ddysgwyr na fyddent yn cael cyfleoedd i gael profiad o’r gweithle fel arall.

Mae adroddiad heddiw, sef Partneriaethau â chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd ac arbennig, yn cynnwys mwy o astudiaethau achos ac argymhellion, gan gynnwys bod ysgolion yn gwerthuso effaith eu partneriaethau a’u gweithgareddau ar ddealltwriaeth disgyblion o fyd gwaith.  Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gyrfa Cymru a phartneriaid eraill hefyd i werthuso effaith rhaglenni presennol a llunio arweiniad i gynorthwyo ysgolion i greu cysylltiadau â chyflogwyr.